Donald Trump
Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, wedi galw am undod wedi i bedair cenedl Arabaidd dorri eu cysylltiadau diplomyddol â Qatar.

Cafodd teithiau awyr eu gohirio a chaeodd phorthladdoedd ddydd Llun pan gyhoeddodd Bahrain, yr Aifft, Saudi Arabia a’r Emiradau Arabaidd Unedig, bod cysylltiadau diplomyddol yn dod i ben.

Mae’r alwad yn dro pedol lwyr ac yn dilyn cyfres o negeseuon gan yr Arlywydd ar Drydar ddydd Mawrth yn cefnogi’r cyhuddiad bod Qatar yn ariannu grwpiau eithafol.

Ers hir, mae cymdogion Qatar yn y Dwyrain Canol wedi ei chyhuddo o ganiatáu a chefnogi grwpiau brawychol – honiadau sy’n cael eu gwrthod gan Qatar.

I Donald Trump, mae’r ffrae yn y Gwlff yn gyfle i uno’r rhanbarth yn erbyn y Wladwriaeth Islamaidd (IS) ac i gwtogi dylanwad Iran yno.