Bill Cosby - llun fideo o'i wefan yn 2014
Mae’r actor Bill Cosby wedi cyrraedd llys yn Philadelphia ar gyfer achos o ymosodiad rhywiol yn ei erbyn.

Mae Andrea Constand, cyn-reolwr pêl-fasged, yn honni bod Bill Cosby, 79 oed, wedi rhoi cyffuriau iddi cyn ymosod arni yn 2004.

Mae’r actor yn honni ei fod wedi bod mewn perthynas â hi.

Dyma’r achos llys cyntaf i gael ei gynnal yn erbyn yr actor er gwaethaf dwsinau o honiadau o ymosodiad rhywiol sydd wedi cael eu gwneud yn erbyn Bill Cosby.

Fe gyrhaeddodd y llys gyda’r actores Keshia Knight Pulliam, a oedd wedi chwarae ei ferch, Rudy Huxtable, yn The Cosby Show.