Mae Llys Cyfansoddiadol Taiwan wedi dyfarnu bod priodasau un-rhyw yn gyfreithlon. Mae’n golygu mai hi yw’r wlad gyntaf yn Asia i gydnabod uniadau rhwng pobol hoyw.

Yn ol dyfarniad y llys, mae’r cod sifil diweddaraf yn y wlad yn torri dwy erthygl yng nghyfansoddiad Gweriniaeth China, sef enw swyddogol Taiwan.

Mae’r dyfarniad yn galw ar yr awdurdodau i weithredu neu ddiwygio cyfreithiau perthnasol o fewn y ddwy flynedd nesaf.

Mae prif bleidiau gwleidyddol Taiwan yn cefnogi priodasau un-rhyw, fel ag y mae mwyafrif y bobol a’r arlywydd, Tsai Ing-wen.