Heddlu'r Almaen (Llun: Wikipedia)
Mae dyn o Brydain wedi marw ar ôl cael ei daro gan gar ar draffordd yn yr Almaen.

Credir bod y dyn wedi bod yn ceisio tynnu hunlun pan gafodd ei daro gan gar ar Autobahn A24 yn Gudow, ger Hamburg tua 11.40yb ddydd Sul, 30 Ebrill.

Yn ôl adroddiadau, roedd y dyn yn 22 oed ac yn dod o’r Alban.

Mewn datganiad, dywedodd yr heddlu yn ninas Lubeck, bod llygad dystion wedi adrodd gweld tri dyn yn cymryd lluniau o’u hunain gyda’u ffonau symudol.

Cafodd y dyn ei daro gan gar Audi A6 a oedd yn cael ei yrru gan ddyn 73 oed.

Nid yw enw’r dyn wedi cael ei gyhoeddi ond dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor bod ei deulu wedi cael gwybod.