Mae deg o bobol wedi’u harestio fel rhan o’r ymchwiliad i geisio darganfod pwy ddarparodd yr arfau i un o ymosodwyr brawychol ar swyddfa’r cylchgrawn Charlie Hebdo yn ninas Paris yn Ionawr 2015.

Fe gafodd 17 o bobol eu lladd yn ystod y digwyddiad.

Mae swyddfa’r erlynwyr ym mhrifddinas Ffrainc yn dweud eu bod wedi dechrau gwneud cyrchoedd ddydd Llun yr wythnos hon, a bod y gwaith hwnnw yn dal i fynd rhagddo fore Mercher.

Mae’r cyrchoedd yn targedu pobol sy’n cael eu hamau o fod â rhan yn y gwaith o ddarparu arfau i Amedy Coulibaly. Fe laddodd o bedwar o bobol yn siop Hypercacher yn nwyrain Paris a phlismones mewn digwyddiad arall, cyn cael ei ladd mewn brwydr saethu gyda’r heddlu.

Roedd Amedy Coulibaly yn cydweithio gyda’r brodyr. Cherif a Said Kouachi, a saethodd ddwsin o bobol yn farw yn swyddfa’r cylchgrawn dychanol, Charlie Hebdo. Fe gafodd y brodyr, hefyd, eu saethu’n farw.