Everest (Llun: Pavel Novak CCA 2.5)
Mae dyn 85 oed o Nepal yn bwriadu dringo Mynydd Everest fis nesaf gan dorri record a dod y person hynaf i gyrraedd copa mynydd ucha’r byd.

Llwyddodd Min Bahadur Sherchan i dorri’r union record yn 2008 pan oedd yn 76 oed, ond fe gollodd ei deitl wedi i ddyn 80 oed o Japan, Yuichiro Miura, gyrraedd y copa yn 2013.

Mae Min Bahadur Serchan yn gobeithio dringo’r mynydd 29,035 troedfedd gyda’r gobaith o ledaenu “neges o heddwch” gan ddweud ei fod am deithio wedyn i ardaloedd gan gynnwys Syria i ymgyrchu dros heddwch.

“Dw i eisiau bod y person hynaf i ddringo Everest eto ac i fod yn ysbrydoliaeth i ddynoliaeth, yn hwb i’r henoed ac yn anogaeth i’r ieuenctid,” meddai’r dyn sy’n byw yn Kathmandu ac yn gyfarwydd ag amodau’r hinsawdd.

Mae wedi trefnu i ddringo gyda thîm o chwech o arweinwyr a chynorthwywyr, a byddan nhw’n gadael am y mynydd ddydd Sul.