Plismon arfog yn Ffrainc Llun: PA
Mae heddlu a phrotestwyr wedi bod yn gwrthdaro ym Mharis ar ôl i ddyn Tsieineaidd gael ei ladd yn ei gartref yn y ddinas.
Roedd aelodau o’r gymuned Asiaidd wedi ymgynnull nos Lun ger gorsaf yr heddlu yng ngogledd ddwyrain y brifddinas yn dilyn honiadau bod y dyn wedi cael ei ladd gan yr heddlu tra roedd ei blant yn bresennol.
Yn ôl yr heddlu, cafodd y dyn ei saethu wedi iddo ymosod ar blismon ag “arf â llafn” yn ystod cyrch.
Mae’n debyg bod tri swyddog yr heddlu wedi eu hanafu a 35 o brotestwyr wedi eu harestio yn ystod y protestiadau neithiwr.
Cymuned Tsieineaidd
Ffrainc sydd a’r nifer fwyaf o bobl Tsieineaidd yn Ewrop, ac mae’r gymuned yn gyson yn cyhuddo heddlu’r wlad o beidio eu hamddiffyn rhag hiliaeth.
Mae llefarydd Gweinyddiaeth Dramor Tsieina yn dweud bod y wlad yn galw ar swyddogion Ffrainc i fynd i’r afael a’r broblem “cyn gynted ag sy’n bosib”.