Cefnogwyr Lloegr yn Ffrainc yn ystod Ewro 2016 (Llun: PA)
Mae gwleidydd yn Rwsia wedi galw am gyfreithloni cwffio ymhlith cefnogwyr pêl-droed, a’i droi’n gamp y gall pobol dalu i’w wylio.

Mae pryderon ar hyn o bryd y gallai terfysgoedd mewn caeau pêl-droed darfu ar Gwpan y Byd yn y wlad y flwyddyn nesaf, a hynny ar ôl trafferthion mawr yn ymwneud â’u cefnogwyr yn ystod Ewro 2016 yn Ffrainc.

Mae Igor Lebedev wedi llunio rheolau ar gyfer yr hyn mae e’n ei alw’n “draka” – neu frwydr.

Ei awgrym yw fod 20 o bobol ar bob tîm yn ymladd yn erbyn ei gilydd o flaen torf mewn ymgais i “dawelu” tueddiadau treisgar cefnogwyr.

Dywedodd y gallai cynllun “arloesol” o’r fath fod yn “esiampl” i gefnogwyr Lloegr sydd, meddai, yn “ymladdwyr gwael”, ac y gallai’r gornestau ddenu miloedd o wylwyr.

Mae gornestau o’r fath eisoes yn cael eu cynnal yn anghyfreithlon yn Rwsia.

Yn ystod Ewro 2016 y llynedd, roedd Igor Lebedev yn barod iawn i ganmol y rhai oedd yn brwydro ar y strydoedd ym Marseille.