Vladimir Putin - eisiau closio (www.kremlin.ru)
Fe ddaeth datblygiad newydd yn y berthynas rhwng yr Unol Daleithiau a Rwsia wrth i Vladimir Putin alw am ragor o gydweithredu rhwng gwasanaethau cudd.

Roedd Arlywydd Rwsia’n siarad gyda swyddogion cudd wybodaeth y wlad a hynny wrth i’r dadlau barhau yn yr Unol Daleithiau am y berthynas glos rhwng yr Arlywydd Trump a’r Rwsiaid.

Yn ôl adroddiadau am y cyfarfod, roedd Vladimir Putin wedi dweud bod rhaid i wasanaethau cudd Rwsia a’r Gorllewin gydweithredu i orchfygu mudiadau braw.

‘Angen cydweithredu’

“Mae’n rhaid i ni greu cydweithredu ar lefel newydd ym maes gwrth-frawychaeth, gyda phartneriaid tramor,” meddai.

Ar yr un pryd, roedd yn cyhuddo aelodau o bartneriaeth filwrol NATO o geisio pryfocio gwrthdaro gyda Rwsia.

Fe fu’n rhaid i Ymgynghorydd Diogelwch Cenedlaethol Donald Trump ymddiswyddo yr wythnos hon oherwydd y cysylltiadau rhyngddo â llysgennad Rwsia yn yr Unol Daleithiau.

Mae rhai beirniaid yn cyhuddo Donald Trump o feithrin cysylltiadau rhy agos â Rwsia ac fe gafodd gwasanaethau cudd y Rwsiaid eu cyhuddo o ymyrryd yn yr etholiad arlywyddol.