Kashmir - asgwrn y gynnen rhwng Pacistan ac India
Mae Pacistan yn cyhuddo India o adeiladu “dinas niwcliar gudd” er mwyn cynhyrchu arfau thermoniwcliar a storio gwastraff peryglus.

Fe ddaeth yr honiadau gan lefarydd Gweinyddiaeth Dramor Pacistan, Nafees Zakaria, yn ystod cynhadledd i’r wasg. Er hynny, nid oedd ganddo dystiolaeth na manylion ychwanegol i gefnogi ei sylwadau.

Mae’r tensiwn rhwng y ddwy wlad wedi bod yn cynyddu yn ystod y misoedd diwetha’, a rhanbarth Kashmir yn ganolog i’r tensiwn hwnnw.

Mae’r ardal wedi’i rhannu’n ddwy ran – y naill dan reolaeth India, a’r llall dan Bacistan – a’r ddwy wlad yn ei hawlio.