Bruce Davies (Llun: Wikipedia)
Mae’n bosib y gallai un o ddilynwyr yr llofrudd cwlt, Charles Manson, gael ei rhyddhau o’r carchar yng Nghaliffornia.

Mae Bruce Davis, 74, wedi dod gerbron y bwrdd parôl bedair gwaith o’r blaen, heb ei ryddhau. Ef oedd yn gyfrifol am lofruddio Gary Hinman a Donald Shea yn ystod llofruddiaethau’r cwlt yn 1969, ond nid oedd rhan o lofruddiaethau mwy enwog ‘Teulu Manson’ yn ystod yr un flwyddyn.

Ond ers iddo gael ei garcharu, mae byrddau parôl wedi dyfarnu nad yw Bruce Davis yn fygythiad i’r cyhoedd oherwydd ei ymddygiad da a’i droedigaeth grefyddol tra yn y carchar.

Eleni, mae rhai perthnasau y rhai gafodd eu lladd wedi mynegi eu pryder y gallai Bruce Davies gael ei ystyried yn garcharor “risg isel” yn ei henaint – er bod ganddo broblemau seicolegol.

Ynghyd â Charles Manson, mae nifer o aelodau’r teulu yn parhau dan glo, yn cynnwys Leslie Van Houten, Patricia Krenwinkel a Charles ‘Tex’ Watson.