Madonna
Mae’r gantores, Madonna, wedi gwneud cais i fabwysiadu dau o blant eraill o Malawi.

Fe ymddangosodd gerbron barnwr Uchel Lys fore Mercher, a’r llys sydd a’r hawl i ganiatau gorchymyn mabwysiadu iddi.

Fe fydd yn rhaid i’r gantores aros wythnos i gael clywed p’un a yw ei chael wedi bod yn llwyddiannus ai peidio.

Mae Madonna eisoes yn magu dau o blant o Malawi – fe fabwysiadodd David Banda yn 2008, a flwyddyn yn ddiweddarach, fe fabwysiadodd ferch o’r enw Mercy James.

Yn 2006, fe sefydlodd Madonna’r elusen ‘Raising Malawi’ er mwyn ceisio mynd i’r afael â thlodi a chaledi y wlad yn ne Affrica – ac yn arbennig i geisio lleddfu dioddefaint plant amddifad a bregus.