Ffliw adar Llun: PA
Mae profion wedi cadarnhau mai ffliw adar oedd yn gyfrifol am farwolaethau nifer o adar gwyllt ar lannau Llyn Fictoria yn Uganda, meddai’r llywodraeth.

Yr adar sydd wedi’u heffeithio hyd yn hyn gan y ffliw HPA1 yw corswenoliaid adeinwen ynghyd a hwyaid ac ieir, meddai’r Weinyddiaeth Amaeth mewn datganiad, gan rybuddio am “argyfwng” posib.

Mae samplau o ddau safle o leiaf, gan gynnwys traeth ar lannau Llyn Fictoria, wedi profi’n bositif  am  HPA1. Gall mathau o’r straen yma o’r clefyd effeithio pobl, meddai’r datganiad.

Nid yw’n glir pa straen o’r firws sy’n heintio’r adar, gan gynnwys rhai sy’n mudo o Ewrop i Affrica yn ystod y gaeaf.

Mae’r straen H5N8 o’r firws, sydd ddim yn effeithio pobl, wedi bod yn lledaenu ar ffermydd dofednod mewn rhannau o Ewrop, gan gynnwys Ffrainc a’r Almaen.

Mae’r llywodraeth yn annog pobl i beidio bwyta adar neu anifeiliaid gwyllt eraill sydd wedi’u darganfod yn farw.