Trump - dadlau tros yr honiadau amdano (Michael Vadon CCA4.0)
Mae cyn ysbïwr gyda’r MI6, sydd wrth wraidd sgandal am honiadau damniol yn erbyn y darpar Arlywydd Donald Trump, wedi cael ei alw’n berson “trwyadl” ac “uchel ei barch” na fyddai’n cyhoeddi gwybodaeth ddi-sail.

Mae peryg hefyd y bydd Llywodraeth Prydain yn cael eu tynnu i mewn i’r helynt gydag awgrym fod cysylltiadau rhyngddyn nhw â Christopher Steele.

“Mae Chris yn weithiwr proffesiynol a phrofiadol. Dyw e ddim y math o berson fyddai’n pasio clecs ymlaen,” meddai ffynhonnell yn y Swyddfa Dramor wrth bapur y Guardian. “Celwydd yw’r syniad bod ei waith yn ffug – hollol anghywir.”

Cuddio

Y gred yw bod Christopher Steele wedi gorfod mynd i guddio wedi’r honiadau mae ef oedd awdur adroddiad sy’n honni bod gan Moscow wybodaeth gyfrinachol am Donald Trump ac y medrai ei defnyddio yn ei erbyn.

Yr honiad yw bod Christopher Steele – sy’n rhedeg busnes cudd-wybodaeth yn Llundain – yn wreiddiol wedi llunio’r adroddiad ar gyfer gwrthwynebwyr gwleidyddol Donald Trump.

Mae llefarydd ar ran Prif Weinidog Prydain wedi gwrthod cadarnhau bod y Llywodraeth wedi cynnig cymorth i Christopher Steele, sydd yn pryderu am ei fywyd erbyn hyn ar ôl cael ei enwi yn adroddiadau’r wasg.