Bu farw Parker Beam, un o ddistyllwyr wisgi enwoca’r byd. Roedd yn 75 oed.

Roedd wedi treulio hanner canrif yn rhedeg yr Heaven Hill Distilleries yn Bardstown, Kentucky, lle’r oedd ei deulu wedi bod yn cynhyrchu’r ddiod bwrbon am 200 mlynedd.

Roedd yn or-nai i’r Jim Beam sydd â’i enw ar y botel.

Roedd cynhyrchu wisgi yn ei waed, ac yntau wedi’i eni i deulu Jacob Beam, y dyn cynta’ i sefydlu distyllfa yn Kentucky yn 1795. Roedd Park Beam, taid Parker Beam, yn frawd i Jim Beam.