Heddlu Efrog Newydd (Llun: PA)
Fe fydd lorïau’n creu blocâd ar y strydoedd o amgylch Times Square yn Efrog Newydd heno wrth i’r ddinas ddathlu’r flwyddyn newydd.

Fe fydd swyddogion diogelwch a’r heddlu ar eu gwyliadwraeth yn dilyn cyfres o ymosodiadau brawychol yn yr Almaen a Ffrainc eleni.

Bydd dwsinau o lorïau 20 tunnell a 15 tunnell o dywod yn creu’r blocâd, a 7,000 o blismyn yn cadw llygad ar y digwyddiadau.

Ymhlith y rhai fydd yn diddanu’r dorf mae’r gantores Mariah Carey, ac fe fydd pelen grisial sgleiniog yn disgyn am ganol nos yn arwydd o’r flwyddyn newydd.

Ban Ki-moon, ysgrifennydd cyffredinol y Cenhedloedd Unedig sy’n rhoi’r gorau i’w swydd, fydd yn lansio’r belen wrth wasgu botwm.