Sydney yn dathlu'r flwyddyn newydd (Llun: PA)
Mae Awstraliaid wedi bod yn gwylio tân gwyllt yn Sydney i groesawu’r flwyddyn newydd.

Roedd golygfeydd cyfarwydd uwchben Pont Harbwr Sydney wrth i drigolion y ddinas ddathlu dyfodiad 2017, ac roedd teyrnged i’r cantorion Prince a David Bowie, fu farw eleni, yn rhan o’r sioe.

Roedd Ynysoedd y De ymhlith y gwledydd cyntaf i gynnal dathliadau, a hynny am 10 o’r gloch y bore ma.

Mae sioeau tân gwyllt hefyd wedi cael eu cynnal yn Auckland yn Seland Newydd.