Mae llys cyfansoddiadol De Corea wedi cyhoe
Park Geun-hye, arlywydd De Corea
ddi nad ydi hi’n bosib gorfodi’r arlywydd, Park Geun-hye, i roi tystiolaeth yn achos ei uchel-gyhuddo.

Fe ddaw hyn yn ergyd i’w gwrthwynebwyr sydd am ei gweld yn gorfod ateb y cyhuddiadau o lygredd yn ei herbyn.

Mae rhai gwleidyddion wedi galw ar i gwmniau masnachol hefyd orfod roi tystiolaeth yn yr achos.

Ond mae cyfreithwyr Park Geun-hye yn dweud bod angen gwirio pob tystiolaeth yn annibynnol, gan nad oes modd ymddiried yn erlynwyr y wladwriaeth i fod yn deg. Mae’r erlynwyr yn cyhuddo Park Geun-hye o gydweithio â’i ffrind i ddwyn arian a ffafrau gan rai o gwmnïau mwya’r wlad, gan ganiatau i’w chyfaill ymyrryd ym materion cyfrinachol y wlad.

Ond mae’r llys heddiw wedi cyhoeddi nad oes modd gorfodi Park Geun-hye i roi tystiolaeth, ac y medr yr achos fynd yn ei flaen yn ei habsenoldeb.