Bydd Muhtar Kent yn rhoi’r gorau i’w swydd yn Brif Weithredwr Coca Cola ar y cyntaf o Fai’r flwyddyn nesaf, wedi saith mlynedd yn y swydd.

Prif swyddog gweithredol 51 oed y cwmni gwerthu diodydd anferthol, fydd yn camu i swydd y Prif Weithredwr.

Mae James Quincey wedi gweithio i Coca Cola, sydd â’i bencadlys yn Atlanta yn America, ers 20 mlynedd.