Leonardo DiCaprio
Mae actor byd enwog wedi cwrdd â’r darpar Arlywydd Donald Trump er mwyn trafod sut allai swyddi â’u ffocws ar ddiogelu’r amgylchedd roi hwb i economi’r Unol Daleithiau.

Fe roddodd Leonardo DiCaprio gyflwyniad yn Nhŵr Trump, Efrog Newydd, o flaen cynulleidfa oedd yn cynnwys y darpar Arlywydd, ei dîm gwleidyddol a’i ferch, Ivanka Trump.

Roedd cynnwys y cyflwyniad wedi ei selio ar ymgynghoriadau gan ffigyrau pwysig ym meysydd economeg a’r amgylchedd. Fe drafodwyd sut y byddai modd creu miliynau o swyddi trwy ddatblygu ffynonellau egni adnewyddadwy.

Mae’r actor, sydd wedi ennill Oscar, yn ymgyrchydd tros faterion yn ymwneud â’r amgylchedd a diogelu bywyd gwyllt ac mae wedi cynhyrchu ffilm ddogfen ynglŷn â chynhesu byd eang.