Pobl yn galaru marwolaeth prif weinidog Tamil Nadu, Jayaram Jayalalithaa, Llun: PA/Aijaz Rahi)
Mae rhagor o swyddogion yr heddlu wedi cael eu hanfon  i dalaith Tamil Nadu yn India i sicrhau diogelwch miloedd o bobl sy’n galaru marwolaeth y gwleidydd Jayaram Jayalalithaa yn 68 oed.

Bu farw prif weinidog Tamil Nadu yn dilyn llawdriniaeth yn Ysbyty Apollo, yn ninas Chennai, ar ôl iddi gael trawiad ar y galon nos Sul, meddai’r ysbyty.

Fe gyhoeddodd y dalaith cyfnod o saith diwrnod o alaru yn dilyn marwolaeth Jayaram Jayalalithaa a oedd yn cael ei hadnabod fel Amma, sy’n golygu “Mam” yn yr iaith Tamil.

Roedd wedi bod yn actores cyn troi at wleidyddiaeth ac roedd ganddi nifer o ddilynwyr teyrngar.