Auschwitz
Mae llys ffederal yn yr Almaen wedi cadarnhau’r euogfarn yn erbyn cyn-aelod o’r SS a fu’n gwasanaethu yng ngwersyll Auschwitz, yn ôl cyfreithiwr y dyn 95 oed.

Cafodd Oskar Groening ei farnu’n euog ym mis Gorffennaf 2015 am fod â rhan ym marwolaethau 300,000 o Iddewon, ac fe gafodd ei ddedfrydu i bedair blynedd o garchar.

Yn ystod ei wrandawiad, fe ddywedodd ei fod wedi goruchwylio eiddo’r carcharorion gan wahanu’r arian a’r eiddo gwerthfawr cyn eu hanfon ymlaen i Ferlin.

Fe wnaeth Oskar Groening lansio apêl yn erbyn ei ddyfarniad ond dywedodd ei gyfreithiwr, Hans Holterman ddydd Llun, fod y Llys Ffederal bellach wedi cadarnhau’r dyfarniad yn ei erbyn.

Dyma’r tro cyntaf i lys yr apêl ddyfarnu ar euogfarn a wnaed ar y sail ei fod wedi gwasanaethu yn y gwersyll, a bod hynny’n ddigon i’w gael yn euog o weithio fel affeithiwr i’r llofruddiaethau a wnaed yno.