Mitt Romney - dychwelyd i reng flaen gwleidyddiaeth yr Unol Daleithiau?
Mae adroddiadau’n awgrymu bod y cyn-ymgeisydd arlywyddol Gweriniaethol, Mitt Romney wedi cael cynnig swydd yng ngweinyddiaeth darpar Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump.

Cyfarfu’r ddau yng nghlwb golff Trump yn New Jersey, gan arwain at y si fod cytundeb ar y gweill.

Ond dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd pa swydd allai ei llenwi.

Dywedodd Trump fod y ddau wedi cael “sgwrs bellgyrhaeddol am amryw theatrau’r byd” sydd â buddiannau’r Unol Daleithiau’n greiddiol iddyn nhw.

‘Twyllwr’ a dyn ‘ffug’

Mae’r cyfarfod yn awgrymu bod y ddau wedi cymodi yn dilyn rhai sylwadau negyddol gan Romney am Trump yn y gorffennol.

Yn gynharach eleni, cafodd Trump ei alw’n “dwyllwr” a dyn “ffug” gan Romney.

Mae Trump eisoes wedi cyfarfod â dau arbenigwr addysg, Michelle Rhee a Betsy DeVos, ynghyd â James Mattis, sydd â chefndir milwrol ac a allai gael cynnig swydd arweinydd y Pentagon.

Ac mae disgwyl iddo gyfarfod â llywodraethwr New Jersey Chris Christie, cyn-faer Efrog Newydd Rudy Giuliani ac ysgrifennydd gwladol Kansas Kris Kobach.

Eisoes, mae seneddwr Alabama, Jeff Sessions wedi’i benodi’n Dwrnai Cyffredinol, Mike Pompeo o Kansas yn bennaeth y CIA a Michael Flynn yn gynghorydd diogelwch cenedlaethol.

Dywedodd Trump y gallai pobol o’r fath – pobol ar adain dde bella’r Gweriniaethwyr – “wneud American’n fawr unwaith eto”.

Mae disgwyl rhagor o gyhoeddiadau ddydd Llun.