6.174.15

Dyna ni felly! Diolch i chi sydd wedi dilyn y blog drwy gydol y nos.

Dyma’r prif benawd:

  • Donald Trump fydd yr Arlywydd tebygol nesaf wedi iddo faeddu Hillary Clinton yn Florida, North Carolina, Pennsylvania, a Wisconsin.
  • Mae wedi cipio lefel uchel o bleidleisiau gan nifer o grwpiau annisgwyl, gan gynnwys pobol o dras Sbaenaidd a menywod.
  • Dyw ymgyrch Hillary Clinton ddim wedi ildio eto, yn y gobaith y gallan nhw gipio’r mwyafrif llethol y taleithiau ymylol sydd yn weddill.

6.45am

Yn ogystal a Hillary Clinton, mae’n anodd dychmygu beth sy’n mynd drwy ben Barack Obama ar hyn o bryd. Mae’n wynebu gweld y cyfan o’r hyn a weithiodd amdano dros yr wyth mlynedd diwethaf yn cael ei ddiddymu.

6.39am

Mae angen ystyried yn ogystal oblygiadau ethol Trump i un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu y ddynoliaeth, sef newid hinsawdd.

Mae’n anodd credu y bydd dyn a ddywedodd bod newid hinsawdd yn dwyll a grewyd gan China er mwyn atal twf economi UDA yn cymryd y problem o ddifrif.

6.22am

Bydd rhaid disgwyl ychydig fisoedd eto er mwyn cael gwybod sut yn union y bydd Donald Trump yn llywodraethu. Ond fe fydd y canlyniadau ariannol yn dod i’r amlwg yn syth.

Mae’r marchnadoedd stoc eisoes wedi syrthio yn sylweddol. Rhwng Trump a Brexit mae yna lawer iawn o ansicrwydd economaidd.

Mae’r economegydd Paul Krugman yn rhagweld na fydd yr economi byth yn adfer o ganlyniad i bolisiau’r Arlywydd Trump.

6.09am

Wel, dyma oedd fy map ar ddechrau’r noson.

Ymddengys y byddaf yn gywir am bob talaith heblaw am Wisconsin, Pennsylvania ac efalllai Michigan. Dyw ffawd New Hampshire ddim yn glir eto.

Os ydach chi wedi bod yma ers y cychwyn, ewch i’r gwely. Os ydych chi newydd ymuno â ni, mae’n ddrwg gen i.

6am

Mae’n debyg bod Donald Trump wedi ennill Pennsylvania ac Arizona.

Dyna ni felly, mae o dros y 270 pleidlais taleithiol sydd ei angen arno.

Donald Trump fydd yr Arlywydd nesaf.

5.57am

Ar ôl yr holl drafod am glymblaid Clinton o bleidleiswyr, mae’r canlyniadau yn awgrymu ei bod hi mewn gwirionedd wedi gwneud yn waeth nag Obama ymysg pobol croenwyn, pobl croenddu, a pobl o dras Hispanaidd.

5.46am

Holwyd ar Twitter sut mae dilynwyr Golwg 360 yn teimlo am gael Trump yn Arlywydd.

Y canlyniadau ar hyn o bryd:

Newyddion gwych! – 14%

Bydd popeth yn iawn – 9%

Siomedig – 11%

Torri calon – 66%

5.42am

Mae Shruti Kulkarni, sydd yn New Jersey, wedi gyrru sylw arall am y Coleg Etholiadol. Ar hyn o bryd mae disgwyl i Clinton ennill y bleidlais boblogaidd ond methu a sicrhau digon o bleidleisiau taleithiol i ennill:

“Cynlluniwyd y Coleg Etholiadol o’r dechrau er mwyn atal y bleidlais boblogaidd rhag rheoli. Roedd sefydlwyr yr Unol Daleithiau yn ofni democratiaeth uniongyrchol – “the tyranny of the majority” fel y galwodd Alexis de Tocqueville ef.

“Mae’n bosib fod yna rai sydd eisiau newid system y Coleg Etholiadol, ond mae yna hefyd nifer o bobl sy’n credu mewn traddodiad ac y byddai yn well glynu wrth system y sefydlwyr.

“Nid oedd Al Gore yn ennill y bleidlais boblogaidd yn ddigon i sicrhau newid y Coleg Etholiadol, ar rydw i’n amau a fyddai hynny yn digwydd pe bai’r un peth yn digwydd i Hillary Clinton.”

5.24am

Mae Hillary Clinton wedi ennill Nevada, yn ôl Associated Press. Os yw hi am fod yn Harri Houdini a dianc o’r sefyllfa y mae hi ynddo, fe allai hynny fod yn ddechrau arni.

5.09am

Yn sgil Brexit a Trump, mae’r byd yn lle llawer llai sicr nag ydoedd ychydig fisoedd yn ôl. Bydd angen i ni fel Cymry Cymraeg bwyso a mesur beth yw ein lle ni o fewn y byd newydd hwn. Mae’n ymddangos yn debygol bod goddefgarwch tuag at grwpiau lleiafrifol yn prinhau, yma yn y Deyrnas Gyfunol a’r pen arall i’r Iwerydd.

Rhaid i ni ofyn beth sy’n gyfrifol am y newid cyfeiriad hwn, ar ôl blynyddoedd pan oedd gwledydd y gorllewin fel pe baen nhw’n dod yn fwy goddefgar ac amlgenhedlig,

Ai bloedd olaf cenhedlaeth hŷn, croenwyn sy’n gweld eu safle breintiedig yn y byd yn dod i ben ydyw?

A oedd pobl yn anoddefgar yr holl amser, a bod y rhyddfrydwyr wedi colli cysylltiad â mwyafrif yr etholwyr?

Efallai nad am 5 o’r gloch y bore yw’r adeg i godi’r cwestiynau hyn! Ond bydd angen i ni eu gofyn yfory.

4.52am

Mae Clinton yn parhau yn debygol iawn o ennill y bleidlais genedlaethol, o 1.5%. Ar ôl i Al Gore golli mewn amgylchiadau tebyg yn 2000, fe fydd galwadau i newid y system hynafol o ethol cynrychilwyr fesul talaith i ethol yr Arlywydd yn siwr o gynyddu. Nid yw’n gwneud unrhyw synnwyr o gwbwl, ac yn golygu bod sylw’r ymgeiswyr i gyd ar llond llaw o’r 50 o daleithiau.

4.49pm

Dychmygwch sut mae Hillary Clinton yn teimlo erbyn hyn. Ychydig oriau yn ôl roedd hi’n meddwl mai hi fyddai Arlywydd benywaidd gyntaf yr Unol Daleithiau. Nawr mae’n wynebu byw mewn gwlad sydd wedi ei reoli gan ddyn sydd eisiau ei rhoi yn y carchar.

4.39am

Mae gan yr Arlywydd yn yr Unol Daleithiau lawer llai o rym nag sydd gan Prif Weinidog yn y Deyrnas Unedig, wrth gwrs.

Dadl nifer sydd wedi pleidleisio o blaid Trump yw y bydd y bobol o amgylch iddi yn gallu rheoli rhai o’i dueddiadau mwyaf peryglus.

Cawn weld yn awr a yw hynny’n wir,

4.33am

Mae Fox News wedi galw Wisconsin i Trump.

A dyna ni felly. Yr Arlywydd Donald J. Trump.

4.32am

Mae’r polau piniwn wedi bod yn anghywir am fwyafrif y Ceiwadwyr yn San Steffan, Brexit, ac yna’r Arlywyddiaeth. Mae’n amlwg fod yna rywbeth yn gyffredin yma, ond fe fydd yn her i’r arbenigwyr addasu eu modelau er mwyn darganfod beth.

4.29am

Mae Trump hefyd wedi ennill Utah erbyn hyn. Roedd ryw sôn y gallai Evan McMullin, yr ymgeisydd ceidwadol gwrth-Trump, gymryd mantais o anfodlonrwydd y Mormoniaid â’r ymgeisydd.

4.21am

Erbyn hyn yn 2012 roedd Barack Obama wedi ei ddatgan yn Arlywydd unwaith eto.

4.18am

Os yw’n ennill fel y disgwyl, sut Arlywydd fydd Trump?

Mae wedi addo drwy gydol yr ymgyrch y bydd yn datrys holl broblemau economaidd y wlad ac yn adeiladu wal ar hyd y ffin gyda Mecsico, heb gynnig llawer o fanylion ynglŷn â sut y bydd hynny’n digwydd. A fydd modd iddo wireddu’r addewidion hyn? A beth fydd yn digwydd os nad yw’n llwyddo i wneud hynny?

4.16am

Mae pôl piniwn ar Twitter Golwg 360 er mwyn holi sut ydach chi’n teimlo am obeithion Clinton ar hyn o bryd.

Ar y funud, mae 11% yn obeithiol, 89% wedi anobeithio.

4.09am

Mae Shruti Kulkarni wedi cysylltu eto, er mwyn nodi bod gwefan y gwasanaeth mewnfudo i Canada wedi torri i lawr.

“Mae Americanwyr yn aml yn jocian, pan aiff pethau’n ddrwg yn wleidyddol, eu bod nhw am symud i Canada. Efallai nad jôc yw hi bellach.”

4.06am

Mae’n siwr y bydd yna lawer o bwyntio bysedd at y polau piniwn unwaith eto yn dilyn y canlyniad hwn. A fyddai Clinton wedi cynnal ymgyrch wahanol pe bai’r polau piniwn wedi awgrymu eu bod nhw ar ei hol hi? Roedd yr ymgyrch yn un saff iawn, yn broffesiynol, ond ai dyna oedd y cyhoedd yn galw amdano?

Fe fydd yna hefyd lawer o drafod ai Clinton oedd yr ymgeisydd cywir i herio Trump. Ond a fyddai rhywun fel Bernie Sanders wedi gwneud yn well mewn gwirionedd?

4.02am

Nid yn unig y bydd Trump yn Arlywydd, ond mae’n ymddangos y bydd y Gweriniaethwyr yn ennill y Senedd a Thŷ’r Cynrychiolwyr yn ogystal. Fe fydd gan Trump llawer o rym yn yr Unol Daleithiau, a thu hwnt, i wneud fel y mynno.

Hyn oll gan blaid yr oedd sawl un yn darogan oedd ar ei wely angau, o ganlyniad i’r newidiadau demograffig o fewn yr Unol Daleithiau.

Mae’n Brexit rhan 2 i bob pwrpas. Bydd rhaid edrych i ganol y ffigyrau dros y dyddiau nesaf i weld beth ddigwyddodd, ond ymddengys bod y genhedlaeth hŷn, wledig, wedi pleidleisio mewn niferoedd uwch na’r disgwyl. Yr un fath a Brexit.

3.51am

Mae yna lygedyn o obaith i Hillary, ond mae’n anodd erbyn hyn rhagweld y bydd y ras hyd yn oed yn arbennig o agos. Os yw Trump yn gwneud cystal yn ardaloedd gwledig Pennsylvania, Michigan, Wisconsin a New Hampshire a mae wedi gwneud yn Ohio a Virginia, bydd Clinton yn colli yn reit handi. Fe allai hyd yn oed ennill bob un o’r taleithiau hyn.

3.44am

Mae pethau’n edrych yn ddu i Clinton yn Wisconsin. Mae’r ardaloedd lle y byddai disgwyl iddi wneud yn dda wedi cyhoeddi eu canlyniadau, ond mae hi’n dal 3% ar ei hol hi.

3.38am

Mae Trump yn mynd i gyrraedd o leiaf 260 o bleidleisiau etholiadol taleithiol ar ôl cipio Florida, North Carolina ac Ohio. Mae angen i Clinton ennill popeth arall.

Mae Clinton wedi ennill Colorado.

Serch hynny, gyda Trump ar y blaen yn Michigan a Wisconsin mae’n anodd peidio rhagweld ar hyn o bryd mai ef fydd yn ennill yr etholiad.

3.35am

Mae’r BBC newydd roi trawiad ar y galon i fi drwy gyhoeddi ar y testun gwaelod bod Trump wedi ennill Virginia, cyn cyhoeddi mai Clinton oedd wedi gwneud hynny!

3.30am

Nid y unig mae Trump wedi ennill Ohio, ond mae wedi gwneud hynny o 54% i 42%. Mae hynny’n argoelio’n wael iawn i Clinton gyfer y taleithiau eraill gerllaw. Roedd disgwyl iddo ennill yno, ond o drwch gwybedyn.

Mae 538 bellach yn dweud ei fod yn fwy tebygol y bydd Donald Trump yn ennill yr etholiad.

3.24am

Mae Trump wedi ennill Ohio. Mae’n bryd darganfod a fydd ‘wal’ Clinton yn sefylll yn gryf yn y taleithiau eraill sydd eu hangen arni i gyrraedd 270. Does dim lle ganddi i golli unrhyw daleithiau allweddol eraill.

3.21am

Rywfaint o newyddion da i Clinton o Colerado, lle mae hi ar y blaen o 49-44% gyda 54% o’r gorsafoedd pleidleisio wedi cyhoeddi.

3.19am

Soniwyd ynghynt am frwydr yr arbenigwyr a oedd yn ceisio rhagweld canlyniad yr etholiad. Ymddengys y bydd Nate Silver o 538 yn weddol hapus gyda’i amcangyfrifon heno, gan ei fod wedi rhybuddio drwy gydol yr wythnosau diwethaf y gallai Trump fynd â hi.

Bydd rhaid i eraill fel Sam Wang a oedd yn dweud y byddai Clinton yn ennill gyda sicrwydd o 98% ail-ystyried eu dull.

3.15am

Mae Trump bellach yn ffefryn i gipio Pennsylvania yn ogystal. Mae’n ymddangos yn gynyddol debygol ar hyn o bryd mai ef fydd yr Arlywydd.

Nid oedd y polau piniwn yn genedlaethol yn arbennig o bell ohoni – ond yn y taleithiau sy’n cyfri’ roedden nhw’n gor-amcangyfrif pleidlais Clinton o tua 2-4%.

3.10am

Michigan a Wisconson yw’r tyllau mawr yn amddiffynfa Hillary Clinton ar hyn o bryd. Mae’n ymddangos yn debygol y gallai Trump ennill un neu’r ddau ohonynt. Os yw’n ennill Florida, Ohio, a South Carolina hefyd, fe fyddai bron yn sicr yn Arlywydd os nad yw Clinton yn ennill talaith annisgwyl mewn rhan arall o’r wlad.

Mae Clinton wedi ennill New Mexico. Ond dyna sedd arall yr oedd disgwyl iddi ei hennill o’r dechrau.

3.02am

Mae Fox News wedi dweud y bydd Clinton yn ennill Virginia, o 47.5% i 47.3%.

Doedd neb erioed wedi meddwl y byddai’r bleidlais yno mor agos â hynny, ac mae’n argoeli’n wael iddi mewn taleithiau eraill lle’r oedd y polau piniwn yn llawer tynnach.

2.58am

Mae’r peso Meciscanaidd wedi plymio mwy nag ar unrhyw adeg yn yr 20 mlynedd diwethaf. Ysgwn i beth sydd wedi achosi hynny?

Michigan a Wisconsin sy’n allweddol i Clinton yn awr. Mae’n weddol hyderus yn Virginia, Pennsylvania a New Hampshire.

2.49am

Dyw ras agos ddim yn syndod mawr a dweud y gwir – yn wir, roedd y map tebygol a gyhoeddais ar ddechrau’r blog yn debyg i’r hyn ydyn ni nawr yn ei ddisgwyl.

Ond ar ôl yr holl newyddion da am Clinton a sicrwydd y sylwebwyr ar ddechrau’r noson, mae’r modd y newidiodd y ras mewn awr wedi bod yn dipyn o sioc.

Mae dal disgwyl i Clinton ennill Virginia, Pennsylvania a New Hampshire. Mae Michigan yn edrych ychydig yn anoddach ar hyn o bryd.

2.40am

Mae Aelod Cynulliad Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, yn beio’r chwalfa ariannol yn 2008 am y posibilrwydd y bydd Donald Trump yn ennill yr Arlywyddiaeth.

“Remember Fannie Mae, Freddie Mac, Lehman, 2008 ‘n all that? Trump, Brexit – this is the result.”

2.36am

Mae’r New York Times bellach yn darogan y bydd Donald Trump yn ennill yr Arlywyddiaeth, tra y bydd Clinton yn ennill y bleidlais genedaethol o 2.3%.

Ni fydd hynny’n achosi unrhyw wrthdaro – ddim o gwbwl!

2.33am

Wel, ychwanegwch Michigan at restr y taleithiau y mae angen i ni boeni amdanynt! Mae pethau’n llawer tynnach yna hefyd nag oedd y polau piniwn yn ei awgrymu, eto oherwydd pleidlais wledig gryf o blaid Donald Trump, a Clinton ddim yn gwneud cystal ag Obama yn yr ardaloedd dinesig.

Mae’r Detroit Free Press, serch hynny, yn dweud eu bod nhw wedi astudio’r data mewn manylder ac y bydd Clinton yn trechu Trump yno.

2.25am

Mae rhagolwg y New York Times wedi llithro yn sylweddol dros yr awr ddiwethaf, o ddatgan bod gan Hillary siawns o dros 80% o fod yn Arlywydd, i 58%. Mae nifer y pleidleisiau etholiadol taleithiol yn hofran ar tua 275.

Mae’r farchnad stoc wedi syrthio yn ogystal wrth ddod i delerau â’r posibilrwydd o Trump yn Arlywydd.

Ai Virginia fydd Sunderland yr Unol Daleithiau? Mae pethau yn dyn iawn yno.

2.15am

Er gwaetha’r holl chwysu am Florida ac Ohio, mae Pennsylvania, Michigan a New Hampshire yn edrych yn weddol sicr i Clinton ar hyn o bryd. Os yw Clinton yn cadw’r seddi rheini, a Colorado yn hwyrach, fe fydd yn saff.

Ond mae’n dyddiau cynnar eto. Fe newidiodd bethau yn Florida yn gyflym iawn. Mae pethau’n edrych yn dyn yn Virginia hefyd, talaith lle’r oedd Clinton yn bell ar y blaen yn y polau piniwn.

2.06am

Mae Texas wedi ei alw i Trump. Roedd ryw awgrym dros yr wythnosau diwethaf y gallai’r dalaith fod mewn peryg ar noson dda i Clinton.

Fe allai heno fod yn noson gweddol dda i Clinton – mae North Carolina ac Ohio dal yn y fantol.

Ond mae yna hefyd ryw naws Brexit-aidd yn yr awyr, yn enwedig yn ardaloedd gwledig taleithiau’r gogledd-ddwyrain.

2.01am

Mae trafferthion Hillary yn Florida yn awgrymu nad oedd ymdrechion cynnar VoteCastr i ddarogan y bleidlais wrth i bobl bleidleisio yn arbennig o lwyddiannus. Maen nhw’n parhau i awgrymu ei bod hi 4,959,569 i 4,644,007 ar y blaen yno.

Mae grwp amhleidiol Political Polls bellach yn dweud mai Trump sydd wedi ennill Florida.

Yr un peth sydd yn glir ar hyn o bryd yw nad yw hi am fod yn noson fer fel yr oedd ambell un yn dweud gwta awr yn ôl!

1.53am

A allai Donald Trump ennill yr Arlywyddiaeth heno? Mae’n bosib mai ychydig ganrannau yn unig a fydd yn gwahaniaethu rhwng buddugoliaeth ysgubol i Clinton ag un i Trump. Yr hyn sydd ei angen i Trump ei wneud yw ennill sawl talaith o drwch blewyn, fel y mae’n ymddangos ei fod ar fin ei wneud yn Florida.

Roedd y darogan cychwynnol bod Clinton am ennill o led cae yn seiliedig ar bleidlais fawr iddi mewn rhai ardaloedd dinesig. Ond yr hyn sydd wedi dod i’r amlwg yw bod pleidlais yr un mor fawr i Trump yn yr ardaloedd gwledig. Dyma wlad sydd wedi ei hollti rhwng grwpiau gwahanol.

1.45am

Mae Trump yn gwneud yn well na Romney ar hyn o bryd yn ardaloedd gwledig Pennsylvania a Michigan ar hyn o bryd. A oes yna beryg gwirioneddol i Hillary Clinton yma? Fe fyddai buddugoliaethau yn y taleithiau rheini yn ddigon i sicrhau bod Trump yn Arlywydd.

1.39am

Wrth i’r pleidleisio yn Florida arafu ar gyfer yr ardaloedd trefol a’r rheini tuag at y gogledd-orllewin lle y caeodd y gorsafoedd pleidleisio yn hwyrach, mae’r ymgeiswyr wedi bod yn casglu’r taleithiau disgwyliedig.

Mae Trump ar 66 pleidlais etholiadol daleithiol, a Clinton ar 68. Ond does yr un talaith a fydd o bwys wrth benderfynu’r enillydd wedi cyhoeddi eto.

1.28am

Wel, ryw hanner awr yn ôl roedd y sylwebwyr yn dweud bod y cyfan ar ben i Trump, ac yn barod i goroni Hillary. Ond wrth i ragor o ganlyniadau ddod i mewn mae’r farn honno wedi newid ryw fymryn. Mae Nate Cohn o’r New York Times o’r farn bod Trump yn gwneud yn dda iawn yn yr Unol Daleithiau gwledig. Ar ben hynny, mae ar y blaen yn Florida ar hyn o bryd. Mae’n mynd i fod yn noson hir, meddai.

1.22am

Mae 86% o’r gorsafoedd pleidleisio wedi cyhoeddi eu canlyniadau yn Florida, a mae Clinton a Trump yn gyfartal ar 48.5% yr un.

Mae gan Trump bleidleisiau ychwanegol yn y ‘daliwr sosban’ tua’r gogledd-orllewin, tra bod Clinton yn disgwyl am ganlyniadau ardaloedd megis Broward Countty sydd yn gryf o blaid y Democratiaid.

1.10am

Nid yw’r hyn sy’n mynd ymlaen yn Senedd yr Unol Daleithiau mor ddiddorol efallai i ni’r Cymry ag ydyw’r Ras Arlywyddol. Yn yr un modd nad yw’r Americaniaid yn becso pwy sy’n rheoli Llywodraeth Cymru, mae’n siwr.

Ta waeth, mae Marco Rubio wedi ennill ei ail-etholiad i gynrychioli Florida yn y Senedd. Fe fydd yn ymgeisydd amlwg ar gyfer 2020 os yw Clinton yn ennill heno.

1.06am

Mae’r gorsafoedd pleidleisio bellach wedi cau yn naw o’r taleithiau allweddol a fydd yn penderfynu’r canlyniad.

Mae’r cyfri wedi dechrau yn Florida, New Hampshire, Georgia, Virginia, North Carolina ac Ohio.

Newydd gau mae’r gorsafoedd yn Michigan, Pennsylvania a Maine.

Mae yna saith talaith arall a allai ddylanwadu ar y ras mewn ryw fodd, sef Wisconsin, Colorado, Arizona, New Mexico, Nebraska, Nevada, ac Alaska. Nid yw’r gorsafoedd pleidleisio wedi cau yma eto.

1am

Mae’r heddlu yn Texas wedi arestio dyn a geisiodd bleidleisio ddwywaith. Dywedodd ei fod yn cefongi Trump ac yn ceisio rhoi prawf ar y system.

Mewn newyddion gwell iddo, mae Trump wedi ennill Mississippi ac Oklahoma. Does yr un talaith allweddol wedi cyhoeddi eto.

12.53am

Mae’r Gweriniaethwr Frank Luntz, sy’n dadansoddi polau piniwn ar gyfer Fox News, yn dweud ei fod wedi edrych yn ddwfn i berfedd y data a’i fod yn amlwg mai Hillary Clinton fydd Arlywydd nesaf yr Unol Daleithiau.

Does dim arwydd ar hyn o bryd bod y polau piniwn yn anghywir, a bod byddin o ddynion croenwyn dosbarth gweithiol wedi pleidleisio am y tro cyntaf eleni.

Mae nifer o’r canlyniadau cynnar sy’n dod i mewn yn ffafrio Trump ar hyn o bryd. Ond mae’r ardaloedd gwledig sy’n pleidleisio dros y Gweriniaethwyr yn aml yn cyhoeddi yn gynharach.

Daw pleidleisiau Clinton i mewn o’r dinasoedd mawr yn ddiweddarach.

12.45am

Yn ôl CNN, mae 35% o’r bleidlais wedi ei gyfri yn Florida ac mae Clinton yn gwneud yn well yno nag Obama. Fe enillodd Obama Florida wrth gwrs, ac mae hon yn sedd sy’n allweddol i Trump.

Os yw Trump yn colli heno fe fydd nifer yn pwyntio bys at ei gamgymeriadau wrth ddigio menywod a phobl o dras Hispanaidd. Fe allai cyfuniad o’r ddau esbonio ei broblemau yn Florida.

Mae arolwg o bleidleiswyr Ohio yn awgrymu bod Trump ar y blaen o 15% ymysg dynion, ond ar ei hol hi o 14% ymysg merched. Yn Virginia mae Clinton ar y blaen o 57-38% ymysg menywod yn ôl arolwg o bleidleiswyr yno. Dyma hollt y bydd angen i’r Gweriniaethwyr geisio ei bontio erbyn yr etholiad nesaf.

12.37am

Mae North Calorina ac Ohio yn rhy dyn i ddatgan enillydd wrth i’r gorsafoedd pleidleisio gau yno. Dyma seddi cwbwl allweddol os yw Trump am fod â siawns o gipio’r Tŷ Gwyn. Rhaid iddo ennill rhain, a Florida, ac yna talaith arall fel New Hampshire neu Pennsylvania. Gyda pethau yn dynn iawn ond yn gogwyddo tuag at Clinton ym mhob un o’r taleithiau rhain ar hyn o bryd mae hynny’n mynd i fod yn dalcen caled.

12.33am

Mae Donald Trump wedi ennill West Virginia. Nid y Virginia pwysig y mae disgwyl ar hyn o bryd i Clinton ddal gafael arno.

12.28am

Mae ymgyrch Trump wedi dechrau awgrymu na fyddwn nhw’n fuddugol. Dywed un o’r rheini sydd wrth galon yr ymgyrch wrth CNN yn ddienw y byddai yn ‘wyrth’ pe baen nhw’n ennill.

Ond rhaid cofio bod Nigel Farage wedi datgan y byddai’r ymgyrch Brexit yn methu ar noson y refferendwm!

12.24am

Mae llygaid pawb ar Florida ar hyn o bryd, wrth i nifer ddyfalu y bydd Clinton yn ennill y dalaith. Fe fyddai hynny’n ergyd farwol i ymgais Trump yn gynnar iawn yn y noson. Mae 12% o’r gorsafoedd pleidleisio wedi cyhoeddi eu canlyniadau ar hyn o bryd, ac mae pethau’n dyn mewn ardaloedd megis Duval lle y dylai Trump fod yn ennill yn weddol gyfforddus.

12.20am

Yn seiliedig ar y wybodaeth gynnar sydd yn eu cyrraedd, mae’r New York Times yn amcangyfrif gyda sicrwydd o 82% y bydd Clinton yn ennill yr etholiad, gyda tua 300 o bleidleisiau etholiadol taleithiol.

12.15am

Mae Shruti Kulkarni wedi bod yn gweithio mewn gorsaf bleidleisio yn New Jersey heddiw. Dywedodd wrth Golwg 360 fod yna ofnau y bydd Trump yn ceisio herio’r canlyniad:

“Mae nifer o bleidleiswyr wedi cwyno eu bod nhw’n ofni y bydd y peiriannau wedi eu hacio neu ddim yn recordio’r canlyniad yn gywir. Dyw ein peiriannau ni ddim yn cysylltu â’r rhyngrwyd, felly does dim posibilrwydd o hacio ar-lein.

“Yn anffodus nid wy pob peiriant yn argraffu cadarnhad o’r canlyniad. Dydyn ni ddim yn gwybod eto a fydd hyn yn rhan o unrhyw gwyn gan ochr Trump ynglyn a dilysrwydd yr etholiad.”

12.07am

Arwydd gwael i Trump – mae’r canlyniadau cynharaf yn awgrymu ras agos yn Georgia. Dyma dalaith y gallai Clinton ei chipio ar noson dda iawn iddi hi.

12.03am

Mae Trump wedi ennill Kentucky ac Indiana, a Clinton wedi cipio talaith Bernie Sanders, Vermont. Fe allen nhw fod wedi eu galw nhw flwyddyn yn ôl, ond rhaid disgwyl nes i’r gorsafoedd pleidleisio gau, amwn i.

11.51pm

Mae uwch ddadansoddwr polau piniwn Real Clear Politics, Sean Trende, wedi datgan y bydd yn “noson fer”.

Bydd Cinton yn ennnill o 5-6%. Mae hi ar y blaen i Obama yn mwyafrif yr ardaloedd sydd wedi adrodd yn ôl, meddai.

Dywedodd ei fod wedi cael cip ar y bleidlais gynnar yn Kentucky a bod pethau’n edrych yn ddu i Donald Trump.

11.47pm

Mae Kentucky, Indiana a New Hampshire wedi dechrau cyhoeddi’r canlyniadau. Mae Trump ar y blaen yn y tair talaith ar yn o bryd. Ond mae disgwyl iddo ennill y ddau gyntaf, beth bynnag, a dim ond 3/300 parth pleidleisio sydd wedi adrodd yn NH.

11.41pm

Mae’r arolygon wrth i bobl adael y gorsafoedd pleidleisio yn awgrymu buddugoliaeth i Hillary Clinton ar hyn o bryd.

Roedden nhw hefyd yn awgrymu buddugoliaeth i John Kerry yn 2004. Felly dydyn ni ddim yn gwybod dim byd i sicrwydd eto.

11.32pm

Fe gynhaliodd Golwg 360 arolwg ar Twitter dros y 24 awr ddiwethaf, gan holi defnyddwyr pwy oedden nhw’n meddwl fyddai yn ennill yr Etholiad Arlywyddol heno. Y canlyniadau oedd:

Clinton – 85%

Trump – 15%

Ysgwn i a fyddwch chi’n gywir!

11.29pm

Mae gorsaf bleidleisio yn Azusa, Califfornia, wedi gorfod cau ar ôl i o leiaf dau o bobl gael eu hanafu gan saethu. Dywedodd llygad dyst wrth CNN ei fod ef ac eraill wedi eu cloi y tu mewn i’r orsaf bleidleisio nes bod y perygl ar ben.

11.19pm

Mae Shruti Kulkarni, sy’n siarad Cymraeg ac yn byw yn nhalaith New Jersey, wedi cysylltu â olwg 360 er mwyn rhannu ei phrofiad o weithio mewn gorsaf pleidleisio, ac fel y maent wedi ymateb i achos llys Trump yn Nevada:

“Ynghylch Nevada (a thaleithiau eraill), mae gan bleidleiswyr sy’n disgwyl mewn ciw adeg cau’r bleidlais yr hawl i bleidleisio. Os nad ydyn nhw wedi pleidleisio ar amser cau’r orsaf bleidleisio, rhaid i’r orsaf aros ar agor nes bod pawb sydd yn disgwyl wedi gwneud hynny. Ond nid oes unrhyw bleidleiswyr ychwanegol yn cael ymuno â’r ciw ar ol yr amser cau.

“Fy nealltwriaeth i yw mai cwyn Trump yn Clark County yw ei fod yn amau a oedd yr rheini  a bleidleisiodd ar ôl yr amser cau wedi ymuno a’r ciw cyn hynny. Mae Clark County yn dadlau i’r gwrthwyneb.

“Mae Las Vegas, y ddinas fwyaf yn Nevada, yn Clark County, felly fe allai’r canlyniad fod yn arwyddocaol.

“Rydw i’n gweithio mewn gorsaf bleidleisio yn New Jersey heddiw (mae’n ddiwrnod i ffwrdd i nifer, ond nid pawb, felly mae llawer o ddinasyddion yn gweithio mewn gorsafoedd pleidleisio).

“Dyw New Jersey ddim fel arfer yn dalaith sy’n gogwyddo o’r naill ymgeisydd i’r llall, ond yn sgil y newyddion heddiw, rydym ni wedi penderfynu cymryd camau pellach a bod yn arbennig o llym. Rydym ni’n disgwyl y bydd eraill mewn gorsafoedd pleidleisio eraill yn gwneud yr un fath.

“Rhag ofn bod Trump yn colli, yn mynd yn flin, ac yn dechrau brwydro ym mhob talaith. Dydyn ni ddim eisiau cael ei siwio!”

11.04pm

Mae’r Gweriniaethwr Frank Luntz, sy’n ddadansoddwr ystadegau ar ran Fox News, wedi cyhoeddi ei fod wedi gweld ffigyrau sy’n dangos bod y grwpiau sydd wedi pleidleisio yn ffafrio’r Democratiaid. Mae nifer y pleidleiswyr mor uchel yn Philadelphia fel ei bod yn anodd gweld Trump yn ennill Pennsylvania, talaith allweddol iddo.

Serch hynny mae ymgyrch Trump yn briffio newyddiadurwyr nad yw pleidleiswyr croenddu wedi cefnogi Hillary yn yr un modd ag Obama ac y bydd hynny’n ergyd farwol i’w gobeithion.

10.58pm

Pwy sy’n mynd i ennill? Yn ôl cwmni VoteCastr sydd am y tro cyntaf erioed yn ceisio cyfri a chyhoeddi nifer y pleidleiswyr wrth i’r pleidleisio fynd rhagddo, dylai Hillary Clinton ennill yn gyfforddus.

Mae hi 49% i 45% ar y blaen yn Florida, 47% i 44% ar y blaen yn Iowa, 47% i 43% ar y blaen yn New Hampshire, 47% i 45% ar y blaen yn Nevada, 46% i 45% ar y blaen yn Ohio, 48% i 45% ar y blaen yn Pennsylvania, a 49% i 42% ar y blaen yn Wisconsin.

Roedd Ohio a Iowa yn daleithiau yr oedd Trump yn ffyddiog o’u hennill. Ar hyn o bryd dylid cymryd yr ystadegau hyn a phinsied o halen.

Ond cofiwch fod angen i Trump ennill Ohio, Iowa, Florida, Nevada a Pennsylvania neu New Hampshire. Os yw’r ffigyrau yma yn agos at fod yn gywir mae pethau yn edrych yn ddu iawn iddo.

10.52pm

Cyfrinair wi-fi parti Donald Trump i ddathlu ennill yr arlywyddiaeth yw ‘DJT4thewin’. Mae rhywun yn obeithiol!

10.50pm

Mae llefarydd ar ran y cyn-Arlywydd George W. Bush a’i wraig Laura wedi dweud nad oedden nhw wedi pleidleisio o blaid Donald Trump na chwaith Hillary Clinton.

Roedd brawd George, John Ellis ‘Jeb’ Bush, yn un o’r ymgeiswyr aflwyddiannus i gynrychioli’r Gweriniaethwyr eleni.

10.36pm

Mae asiantaethau newyddion wedi bod yn holi pobl wrth iddyn nhw adael y gorsafoedd pleidleisio. Yn ôl MSNBC, mae 38% yn credu bod Clinton yn onest, a 32% Trump. Mae arolwg gan Fox News yn dweud bod 71% yn poeni am y modd y mae Trump wedi trin merched, a 28% ddim yn poeni.

10.19pm

Mae yna frwydr arall wedi cael ei chynnal gyferbyn a’r frwydr Arlywyddol eleni, sef y frwydr rhwng arbenigwyr ar bolau piniwn sydd am ddarogan y canlyniadau’n gywir. Mae unigolion deheuig megis Nate Silver, Nate Cohn, Sam Wang ac eraill wedi bod yn ymrafael dros bwy sydd gyda’r y model orau o’r etholwyr. Fe aeth pethau’n sgrech dros y dyddiau diwethaf wrth i Nate Silver golli ei limpyn yn llwyr.

Mae’r Huffinton Post, sydd wedi cyhoeddi ambell i erthygl yn ddiweddar yn ymosod ar Nate Silver, newydd ddychwelyd i faes y gad.

Dyma pam bod Cymru yn ei gyfyngu ei hun i un Roger Scully.

10.10pm

Fe fydd y polau cyntaf yn cau mewn ychydig llai nag awr. Mae’n anodd credu yma yng Nghymru lle mae’r polau piniwn ar agor nes 10pm a’r canlyniadau ddim yn cael eu cyhoeddi nes 3am (neu 6am os mai Cyngor Caerdydd sy’n cyfri’). Ond bydd y gorsafoedd yn cau am 7pm EST yn nifer o’r taleithiau a fydd yn allweddol heno – Florida a Virginia. Hannwr awr wedyn fe fyddan nhw wedi cau yn Ohio a North Carolina.

Os yw Florida, Ohio a North Caolina o blaid Clinton, dyna ni. Fe allen ni wybod mewn ryw dair awr os yw Clinton yn Arlywydd, i bob pwrpas. Byddai yn rhaid i Trump ddisgwyl am ychydig eto cyn cael dechrau’r dathlu.

9.57pm

Roedd yna gyfnod nid nepell yn ôl pan oedd arbenigwyr yn rhagweld na fyddai canran mor uchel o’r etholwyr yn pleidleisio eleni ag yn 2012, a hynny oherwydd nad oedd y dewis rhwng Clinton a Trump yn un arbennig o atyniadol.

Ond mae sawl arbenigwr, er enghraifft Nate Cohn o’r New York Times, bellach yn dweud eu bod nhw’n disgwyl i nifer y pleidleiswyr fod yn uwch eleni.

Gwelwyd eisoes fel y mae cynnydd yn nifer y pleidleiswyr o dras Hispanaidd yn Florida yn golygu bod y nifer sydd wedi pleidleisio hyd yn hyn eisoes yn uwch nag ydoedd yn 2012.

Mae’n anodd gwybod pwy fydd yn elwa yn y taleithiau eraill. A fydd y dyn croenwyn, dosbarth gweithiol y mae ymgyrch Trump wedi canolbwyntio arno yn dod allan mewn niferoedd uwch ac ennill taleithiau megis Pennsylvania a New Hampshire i’r Gweriniaethwyr?

9.46pm

Mae gan BBC Cymru Fyw erthygl ddiddorol iawn am siaradwr Cymraeg a ddaeth yn agos at gael ei ethol yn Arlywydd yr Unol Daleithiau.

Mae gan Hillary Clinton gysylltiadau Cymraeg hefyd, ar ddwy ochor ei theulu.

 9.41pm

Ni fydd yna ganlyniadau terfynol am ychydig oriau eto ond mae’r marchnadoedd stoc i weld yn weddol ffyddiog y bydd Hillary Clinton yn ennill.

Maent wedi tueddu i ostwng wrth i newyddion sydd yn ei wneud yn fwy tebygol y bydd Trump yn ennill ddod i’r amlwg. Caeodd y Dow Jones 73 pwynt yn uwch heddiw.

Roedd y marchnadoedd stoc hefyd wedi dringo’n uchel ar ddiwrnod refferendwm Brexit wrth gwrs, cyn plymio dros y dyddiau nesaf, felly nid yw eu canyniad heddiw o reidrwydd yn golygu ryw lawer.

9.29pm

Mae Donald Trump wedi honni unwaith eto ei fod yn credu y bydd twyll yn chwarae rhan yn yr etholiad. Daeth ei sylwadau wrth iddo siarad â Fox News ac AM Tampa Bay y bore ma.

Dywedodd ei fod am “ddisgwyl i gael gweld beth sy’n digwydd” cyn dod i gasgliadau.

Mae Donald Trump hefyd newydd drydar yn honni bod problemau gyda peiriannau pleidleisio.

Mae yna amheuon gwirioneddol a fydd yn derbyn y canlyniad os yw Hillry Clinton yn cael ei hethol heno.

9.22pm

Mae llawer o son wedi bod dros y misoedd diwethaf ynglŷn â’r modd y mae ymgyrch Clinton wedi bod yn fwy effeithiol nag un Trump sicrhau bod ei chefnogwyr yn cyrraedd y gorsafoedd pleidleisio.

Cyhoeddwyd arolwg gan Morning Consult/Politico heddiw sy’n nodi bod 17% o’r rheini a bleidleisiodd wedi derbyn cyswllt gan Clinton, o’i gymharu â 8% yn unig gan Trump. Roedd 9% wedi derbyn neges gan y ddwy ymgyrch. Dywedodd 62% nad oedd yr un o’r ddwy ymgyrch wedi cysylltu â nhw.

9.15pm

Mae Hillary Clinton wedi dweud ei bod yn gobeithio y bydd modd iddi ailgynnau ei chyfeillgarwch gyda Donald Trump yn dilyn yr etholiad.

“Rwy’n gobeithio wir,” meddai heddiw. “Rhaid i mi gyfaddef – ac rwy’n credu bod modd siarad â nifer o bobl ledled Efrog Newydd sydd hefyd yn ei nabod. Rydym ni wedi ein synnu braidd gan lawer o’r hyn y mae o wedi ei ddweud a’u gwneud yn ystod yr ymgyrch neu bethau yr ydym ni wedi clywed amdanynt.”

Ysgwn i a fydd cerdyn Nadolig o’r naill i’r llall eleni?

Dylid nodi bod Clinton a Trump yn byw yn ardal Efrog Newydd. Yn wir, ar ôl yr holl hedfan o amgylch yr Unol Daleithiau, fe fydd partïon dathlu’r darpar-arlywyddion yn digwydd ychydig dros filltir yn unig oddi wrth ei gilydd.

Bydd Clinton yn cynnal ei digwydd hi yn y Jacob K. Javits Convention Center, er mwyn torri’r nenfwd gwydr sydd arno. Bydd Trump yn ymgasglu â’i deulu a’i gyfeillion yn Nhŵr Trump gerllaw.

9.03pm

Mae Colorado yn dalaith nad oes neb wir wedi bod yn ei drafod dros yr wythnosau diwethaf ond a allai gymhlethu pethau i Clinton. Mae’r dalaith werth 9 pleidlais etholiadol i’r ddau ddarpar-arlywydd, yn sylweddol llai na 20 Pennsylvania, ond mae’r siawns y gallai Trump ennill y dalaith yn weddol debyg.

Mae’r Gweriniaethwyr ychydig ar y blaen yn y bleidlais gynnar yn Colorado, ond roedd hynny’n wir yn 2012 hefyd ac fe enillodd Obama’r sedd o 51.49% i 46.13% Mitt Romney.

Os yw Hillary Clinton a Donald Trump o fewn cyrraedd i’r Arlywyddiaeth ar ô i’r taleithiau i’r dwyrain gyhoeddi eu canlyniadau fe fydd rhaid diswyl nes tua 2am amser Cymru i gywed canlyniad Colorado.

8.55pm

Fel y soniais i gynne, rydym ni’n weddol ffodus yma yng Nghymru bod y mwyafrif o’r taleithiau sydd yn gogwyddo rhwng un blaid a’r llall yn nwyrain yr Unol Daleithiau. Fel arall fe fyddai wedi goleuo bore yfory cyn i ni wybod yr enillydd.

Mae llawer o bleidlais genedlaethol y Democratiaid yn nhalaith California yn y gorllewin, ac er nad yw’n canlyniad yn y fantol yno fe fydd yn allweddol wrth benderfynu beth yw mwyafrif yr enillydd.

Mae yna wyliau cenedlaethol yn yr Unol Daleithiau ddydd Gwener ac ni fydd nifer o bleidleisiau sydd wedi eu gyrru drwy’r post yn cael eu cyfri’ yng Nghaliffornia nes dydd Llun.

Ni fydd hyn o bwys os yw un ymgeisydd ymhell ar y blaen o ran pleidlais genedlaethol, ond os yw Trump, dywed, yn bwriadu codi twrw fe allai’r oedi fod yn broblem.

8.37pm

Oes rhywun wedi bathu gair Cymraeg da am ‘exit polls’? Beth bynnag ydyn nhw, mae gennyn nhw newyddion da i Clinton yn Iowa yn ogystal, talaith yr oedd disgwyl i Trump ei ennill yn weddol gyfforddus. Mae Hillary ar y blaen o drwch adain gwynebyd yno, medden nhw, 524,152 i 505,385.

Ond mae pethau wedi tynhau yn Ohio. Yr amcangyfrif ar hyn o bryd yw bod Clinton 1,968,075 i 1,939,358 o bleidleisiau ar y blaen.

8.30pm

Beth am i ni ddal i fyny efo beth mae’r polau piniwn wrth i bobl adael y gorsafoedd pleidleisio yn ei ddweud wrthym?

Yn Florida mae’r un nifer o bobl eisoes wedi pleidleisio dros y Democratiaid a wnaeth hynny yn 2016, medden nhw. Mae Clinton 4,225,249 o bleidleisiau ar y blaen i 3,947,947 Trump. Dim ond amcangyfrif yw hynny wrth gwrs yn seiliedig ar groesdoriad o’r pleidleiswyr. Ond mae cwestiynu pobol wrth iddynt adael y gorsafoedd pleidleisio wedi tueddu i fod yn fwy cywir na’r polau piniwn yn y gorffennol.

8.19pm

Mae’r Gweiniaethwyr yn cael eu beirniadu’n hallt gan rai am geisio siwio cyngor Clark yn nhalaith Navada, a wrthododd cau’r blychau pleidleisio nes dwy awr ar ôl amser cau yn ystod y cyfnod pleidleisio cynnar oherwydd nad oedd pawb a oedd yn ciwio wedi cael bwrw pleidlais . Dyma drydariad gan Kurt Eichenwald sydd wedi bod yn dilyn ymgyrch Trump ar ran Newsweek:

“GOP cuts poll places/early vote, creating big lines. Then sue when all in line in Hispanic area get 2 vote, arguing polls shuld have closed.”

8.10pm

Am y tro cyntaf ers degawdau mae Utah yn sedd i’w gwylio mewn gornest Arlywyddol. Mae poblogaeth Formonaidd y dalaith wedi mynegi anhapusrwydd â Trump fel ymgeisydd y Gweriniaethwyr ac mae’r polau piniwn yn awgrymu y gallai nifer ohonynt ddewis yr ymgeisydd ceidwadol amgen Evan McMullin yn lle. Mae Evan wedi ei gefnogi gan Mitt Romney, ymgeisydd y Gweriniaethwyr yn yr etholiad diwethaf.

Os ydych chi eisiau darllen rhagor am gysylltiadau Cymreig y Mormoniaid mae yna lyfr newydd ei chyhoeddi gan Wil Aaron sy’n adrodd rywfaint o’r hanes.

8.04pm

Trydariad dadleuol gan Mike Parker, ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngheredigion yn yr Etholiad Cyffredinol y llynedd:

“Clinton campaign has been too, too redolent of lazy Remain campaign here. Hope to hell it’s been enough this time though.”

Ydych chi’n cytuno?

8.02pm

Mae pôl piniwn wrth i bobl adael y gorsafoedd pleidleisio yn awgrymu bod 85% ohonyn nhw’n awyddus iawn i’r etholiad ddod i ben. Dim ond 25% a 29% oedd yn ‘Hapus’ ac yn ‘Falch’ wrth ystyried yr etholiad.

7.57pm

Fel y soniwyd eisoes, os yw Clinton yn ennill yn weddol gyfforddus fe ddaw hynny i’r amlwg tua hanner nos.

Mae yna lawer yn Florida wedi pleidleisio’n gynnar, ac maen nhw’n tueddu i gyfri’ y bleidlais yn gyflym iawn hefyd. Yn 2012 roedd hanner y bleidlais wedi ei gyfri’ erbyn 12pm amser Cymru.

Os nad yw pethau yn arbennig o dyn fel oedden nhw yn 2000 fe ddylai’r bleidlais gynnar ddangos pwy sydd yn debygol o fynd a hi.

Byddai ennill North Carolina yn ogystal yn eisin ar y gacen i Clinton. Mae’r polau piniwn yn cau hanner awr ar ôl Florida. Serch hynny nid yw’r bleidlais gynnar bob tro’n ddarluniadol o’r cyfamswm terfynol felly fe allai gymryd nes tua 1pm yno i ni wybod pwy sydd wedi cymryd y dalaith.

Os yw Trump yn cipio’r taleithiau hyn dim ond megis dechrau y bydd yr her iddo ef – bydd angen iddo geisio cipio Pennsylvania neu New Hampshire yn ogystal.

Croeso i chi holi cwestiynau neu sylwadau yma ar y blog neu ar Twitter ac fe wna i drio fy ngorau i’w hateb!

7.47pm

Os yw Clinton yn cipio North Carolina, Florida, Ohio neu Nevada, fe ddylen ni fod yn weddol hyderus ei bod hi wedi ennill.

Pryd i ystyried a allai Trump fod wedi ennill? Os yw’r ennill Pennsylvania, Colorado, New Hamphsire, Michigan, Wiscoonsin neu Minnesota.

Y gobaith yw cadw’r blog yma i fynd o leia’ nes bod y collwr yn cyfaddef hynny. Ond os mai Donald Trump sy’n colli efallai y byddwn ni yma nes Sul y Pys!

7.44pm

Mae Nate Silver, un o arbenigwr pennaf yr Unol Daleithiau ar faterion etholiadol (ryw fath o Roger Scully Americanaidd) yn nodi y gallai’r polau piniwn fod yn bell ohoni eleni oherwydd bod nifer yr ymatebwyr sy’n dweud nad ydyn nhw wedi penderfynu yn llawer uwch na’r arfer.

Er mwyn i Trump ennill mae angen i’r polau piniwn fod tua 3% allan ohoni. Tua’r un faint ag oedden nhw â Brexit felly.

Yn y gorffennol, mae’r polau piniwn wedi tueddu i fod yn eithaf agos ati. Mae gan y cyrff sy’n cynnal y polau lawer iawn o brofiad wrth wneud hynny, wedi’r cwbl.

Y tro diwethaf i’r polau piniwn fod dros 3% allan ohoni (h.y, wrth ddarogan canran pleidlais yr ymgeiswyr unigol, nid y bwlch rhyngddynt) oedd yn etholiad 1980, pedair blynedd cyn i mi gael fy ngeni.

Yn ystod y pedwar etholiad diwethaf maen nhw wedi bod tua 1-1.5% allan ohoni, a hynny o blaid y Democratiaid yn 2008 ac 2012.

7.33pm

Y cwestiwn mawr: Beth ydw i’n meddwl fydd yn digwydd?!

Rhaid cyfaddef fy mod i wedi darogan buddugoliaeth braf i’r ymgyrch Aros yn y Refferendwm ar adael yr Undeb Ewropeaidd. Felly dylid cymryd y canlynol â pinsien o halen!

Fel nad oeddwn i’n twyllo, fe benderfynais i lunio fy map neithiwr, fel nad oedd y ffigyrau pleidleisio cynnar yn dylanwadu arnaf. Serch hynny, roedd yn seiliedig ar y polau piniwn olaf, yr hyn ydyn ni’n ei wybod am bleidleisio cynnar (e.e. yn Nevada), a hefyd buddsoddiad y Democratiaid mewn ymgyrch soffistigedig i dargedu pleidleiswyr a’u hannog i fynd i’r polau piniwn.

Cliciwch yma i weld y map.

Roeddwn i’n credu y bydd Clinton yn crafu ei ffordd i 274 o bleidleisiau etholiadol. O wybod beth ydyn ni’n ei wybod erbyn hyn, mae’n bosib i mi fod yn gymharol besimistaidd ynglyn a Florida, New Hampshire a North Carolina, ar y sail nad oes dim byd i weld yn mynd yn iawn yn 2016. Ond cawn weld – gall Trump ennill o hyd!

7.26pm

Fel y disgwyl, mae pethau ychydig yn dynnach yn Ohio. Mae’r rheini sy’n holi pobl wrth iddynt adael y blychau pleidleisio yn awgrymu bod 46% o’r rheini sydd wedi pleidleisio hyd yn hyn yn ffafrio Hillary, a 45% Trump. Roedd y polau piniwn ddoe wedi awgrymu bod gan Trump fantais eithaf cyfforddus, felly mae’n bosib bod Hillary yn gwneud yn well na’r disgwyl yma. Ond eto mae’n ddyddiau cynnar, a dim ond hanner y boblogaeth sydd wedi pleidleisio ar hyn o bryd.

7.20pm

Mae pethau’n edrych yn gymharol addawol i Clinton yn Pennsylvania, yn ôl y polau sy’n holi pobl wrth iddynt ddod allan o’r blychau pleidleisio. Mae tua hanner y bobl yno wedi pleidleisio erbyn hyn, a maen nhw’n amcangyfrif bod Hillary 48%, Trump 44%. Mae hyn yn awgrymu bod y polau piniwn yn eithaf agos ati. Os yw’r patrwm yn parhau, mae’n ymddangos y bydd Hillary yn ennill y dalaith. Ond mae’n dyn!

7.16pm

Fe fydd y blog byw yn dechrau cyhoeddi’n amlach drwy gydol y nos o hyn ymlaen. Ifan Morgan Jones sydd yma wrth y llyw, ac mae gen i gyfoeth o wybodaeth wrth flaenau fy mysedd, ac ambell gyfraniad gan rai sydd draw yn yr Unol Daleithiau yn ogystal.

Y darn cyntaf o newyddiaduraeth ar-lein wnes i ar gyfer cwmni Golwg oedd Blog Arlywyddol 2008. Roedd hynny ar yr hen Golwg.com, ryw chwe mis cyn lansiad Golwg 360! Mae’n teimlo fel amser hir yn ôl.

Mae’r blog yna wedi diflannu oddi ar wyneb y we erbyn hyn. Dim ond y cyflwyniad sy’n weddill:

“Beth yw live-blogging yn y Gymraeg? Byw-flogio, ynteu yw blogio byw yn fwy naturiol? Beth bynnag sy’n gywir, fe fyddaf ar fy nhraed tan oriau man y bore yn darparu ymdriniaeth Cymraeg o ornest etholiadol y Gweriniaethwr John McCain a’r Democrat Barack Obama.”

6.52pm

Bythefnos yn ôl roedd Trump mor bell ar i hol hi yn y polau piniwn nes bod nifer o sylwebwyr yn dweud y byddai bron a bod yn amhosib iddo ennill. Yn y cyfamser mae Hillary Clinton wedi dod dan y lach yn dilyn cyhoeddiad gan yr FBI eu bod yn ymchwilio i dystiolaeth newydd yn ymwneud â’i e-byst. Mae’r polau piniwn wedi culhau yn sylweddol, i’r pwynt lle y gallai camgymeriad o tua 3% o blaid Trump olygu mai ef yw’r Arlywydd. Bois bach!

Rhowch eich hun yn esgidiau Hillary Clinton heno. Os yw hi’n ennill fe fydd hi nid yn unig yn Arlywydd ond wedi cyflawni camp hanesyddol – y fenyw gyntaf yn y Tŷ Gwyn.

Colli ac fe fydd dyn sydd yn dweud ei fod am ei charcharu yn Arlywydd!

6pm

Am ba mor hir y bydd angen i ni’r Cymry aros yn effro nes  cael y canlyniad?

Diolch byth maen nhw’n tueddu i ddatgan yr enillydd yn yr Unol Daleithiau yn llawer cynt nag ydyn nhw yn etholiadau’r Cynulliad (h.y. ddim am 6am y bore canlynol fel yng Nghaerdydd). Mae’r Unol Daleithiau yn gyfandir eang wrth gwrs, ond yn ddefnyddiol iawn i ni mae’r rhan fwyaf o’r taleithiau sy’n gogwyddo rhwng y Democratiaid a’r Gweriniaethwyr yn y dwyrain.

Mae’n debygol y cawn ni wybod yn swyddogol erbyn o leiaf 4am pwy sydd wedi mynd a hi, ond fe fydd y gwynt yn debygol o fod yn chwythu i un cyfeiriad amlwg erbyn hanner nos.

Bryd hynny mae disgwyl i Florida a New Hampshire ddatgan pwy sydd wedi ennill y taleithiau rheini. Os yw Clinton yn ennill y ddwy, yna mae’n debygol iawn mai hi fydd yr arlywydd nesaf. Os yw Trump yn ennill y ddwy, mae’n mynd i fod yn noson anodd iawn i Clinton. Os yw Trump yn ennill Florida a Clinton yn ennill New Hampshire dylai Clinton ennill o drwch blewyn.

Os yw Trump wedi ennill fe fyddai i allan yn dechrau tyllu’r lloches fomiau 1am, pan fydd canlyniadau Pennsylvania a Michigan yn cael eu cyhoeddi.

Dyma amseroedd cau blychau pleidleisio’r taleithiau y mae yna rywfaint ansicrwydd a ydyn nhw’n mynd i fynd o blaid Clinton neu Trump:

11pm – Florida, Virginia, Georgia

11.30pm – Ohio, North Calorina

12am – Pennsylvania, Michigan, Minnesota, Maine (ail ardal)

1am – Wisconsin, Colorado, Arizona, New Mexico, Nebraska (ail ardal)

2am – Nevada

4am – Alaska

A dyma’r amseroedd cynharaf y mae disgwyl iddyn nhw ddatgan pwy sydd wedi ennill y taleithiau allweddol rheini:

12am – Florida, New Hampshire, Georgia, Virginia

12.30am – North Carolina, Ohio

1am – Michigan, Pennsylvania, Maine (ail ardal)

2am – Colorado, Minnesota, Wisconsin, Nebraska (ail ardal)

3am – Arizona, Nevada

5.28pm

Mae’r ffigyrau cychwynnol sy’n dod o Florida yn awgrymu bod Clinton yn gwneud yn dda mewn ardaloedd lle mae niferoedd uchel o bobl o dras Hispanaidd. Er enghraifft yn Broward yn ne-ddwyrain Florida mae hi 64.9% i 29.4% ar y blaen yn ôl y polau wrth adael y blychau pleidleisio.

Os nad yw Trump yn ennill heno efallai mai un o sgil effeithiau eironig ei ymgyrch fydd annog nifer uwch o’r grwp hwn i bleidleisio. Ar ôl treulio rhan helaeth o’i ymgyrch yn ymosod ar fewnfudwyr a phobl o Mecsico, efallai na ddylai hynny fod yn syndod.

5.18pm

Pa daleithiau fydd yn penderfynu pwy fydd yr arlywydd nesaf?

Florida, Pennsylvania, Ohio, North Carolina, Virginia, Wisconsin, Colorado, Iowa, Nevada a New Hampshire yw’r seddi sydd wir yn y fantol.

Bydd Hillary Clinton yn gobeithio cadw gafael ar Pennsylvania, Virginia, Wisconsin, Colorado a New Hampshire er mwyn cyrraedd y 270.

Rhaid i Trump ennill y cyfan arall i gyd ac un o’r taleithiau uchod – Pennsylvania neu New Hampshire sy’n ymddangos fwyaf tebygol ar hyn o bryd.

Mae pleidleisiau cynnar yn awgrymu bod Clinton ar y blaen yn Nevada er nad yw ei pholau piniwn wedi bod yn wych yno. Pe bai hi’n ennill y dalaith honno, ni fyddai New Hampshire yn ddigon i Trump.

Mae’r polau piniwn yn awgrymu y gallai Florida fynd y naill ffordd neu’r llall. Ar noson hynod o dda i Clinton efallai y gallai gipio taleithiau fel Georgia ac Alaska hefyd.

4.36pm

Er gwaetha’r holl drafod diddiwedd yn y wasg, mae’r polau piniwn wedi bod yn weddol sefydlog mewn gwirionedd, gan ddatgan y bydd Clinton yn ennill y bleidlais o rhwng 2-5%.

Dyw hynny ddim wrth gwrs yn golygu mai dyna fydd y canlyniad terfynol. Mae’n rhaid i’r rheini sy’n llunio’r polau ryw fath o ddyfalu pa grwpiau fydd yn pleidleisio ar y diwrnod – faint o bobol ifanc, hŷn, croenwyn, croenddu, ac yn y blaen. Os ydyn nhw’n anghywir, yna mae’r polau piniwn hefyd yn debygol o fod yn anghywir.

Mae hyd yn oed y polau piniwn wrth adael y blychau pleidleisio yn seiliedig i raddau ar yr ystyriaethau hyn.

Mae’n werth nodi mai’r hyn aeth o’i le â pholau piniwn Brexit oedd bod nifer uwch o bleidleiswyr hŷn a rhai heb raddau prifysgol wedi taro pleidlais nag oedd llunwyr y polau piniwn wedi ei ddisgwyl.

4.09pm

Mae cwmni VoteCastr yn cynnal pôl piniwn wrth i bobl adael y blychau pleidleisio drwy gydol y dydd. Maent yn amcangyfrifif y pleidleisiau canlynol ar hyn o bryd. Mae’r canlyniadau yn galonogol i Clinton. Ond dylid cymryd y canlyniadau hyn gyda phinsied o halen, gan mai ychydig oriau yn unig sydd wedi mynd heibio ers agor y gorsafoedd pleidleisio. Does dim digon o ganlyniadau o Pennsylvania a New Hamphsire eto i mi eu hail-adrodd:

Florida

Clinton 1,780,573

Trump 1,678,848

Iowa

Clinton 173,188

Trump 244,739

Nevada

Clinton 276,469

Trump 269,269

Ohio

Clinton 632,433

Trump 579,916

Wisconsin

Clinton 295,302

Trump 225,281

12.18pm

Fe fydd Blog Byw Etholiad Arlywyddol UDA Golwg 360 yn dechrau arni o ddifri’ am 7.30pm heno, ychydig oriau cyn i’r blychau pleidleisio gau.

Y darogan ar byd o bryd yw mai Hillary Clinton sydd yn fwyaf tebygol o ennill – ond bod gan Donald Trump siawns reit dda o fynd â hi yn ogystal.

Yn y cyfamser, beth am bleidleisio dros bwy ydych chi’n credu fydd yn ennill yr Arlywyddiaeth heno ar bôl piniwn Golwg 360 ar Twitter?