Mae pobol Bwlgaria yn ethol arlywydd newydd heddiw, ac am y tro cynta’ erioed mae bwrw pleidlais yn orfodol.

Ymysg y pynciau brys fydd yn wynebu’r arweinydd newydd, y mae cynnydd posib yn nifer y mewnfudwyr o wlad Twrci, ynghyd â thensiynau cynyddol rhwng Rwsia a gwledydd y Gorllewin.

Heddiw, mae’n rhaid i bob un o’r 6.8 miliwn o bobol sydd wedi’u cofrestru i bleidleisio, fwrw eu croes tros un ymgeisydd. Ar y papur pleidleisio hefyd y mae refferendwm ynglyn â’r broses etholiadol.

Mae’r polau piniwn yn awgrymu na fydd yr un o’r 21 ymgeisydd am yr arlywyddiaeth yn ennill yn glir yn rownd gynta’r bleidlais, ac yn bydd yn rhaid cynnal ail rownd o bleidleisio yr wythnos nesa’, Tachwedd 13.

Y ceffyl blaen, fodd bynnag ydi Llefarydd y Senedd, Tsetska Tsacheva, cyfreithwraig 58 oed ac aelod o’r blaid i’r dde o’r canol, GERB. Honno ydi plaid y prif weinidog, Boiko Borisov, hefyd.