Y ffonau clyfar, Galaxy Note 7 Llun: Samsung/PA
Mae cwmni Samsung wedi penderfynu sgrapio ei ffonau clyfar Galaxy Note 7 ar ôl atal eu gwerthiant yn dilyn adroddiadau bod y ffonau, a gafodd eu cyfnewid am rai newydd, wedi mynd ar dân.

Roedd y cwmni technoleg wedi oedi cyn lansio’r ffôn yn y Deyrnas Unedig  ym mis Medi wrth iddo ymchwilio i adroddiadau bod batris y ffonau yn  gorboethi neu’n mynd ar dân.

Roedd disgwyl i’r ffonau clyfar, sy’n costio £740, gael eu hail-lansio yn y Deyrnas Unedig ar ddiwedd mis Hydref.

Ond daeth adroddiadau pellach o’r Unol Daleitihau bod y dyfeisiadau newydd oedd wedi cael eu cyfnewid yn parhau i fynd ar dân.

Roedd oddeutu 2.5 miliwn o’r ffonau wedi cael eu hadalw ar draws y byd.

Dywedodd Samsung mewn datganiad heddiw eu bod yn rhoi’r gorau i gynhyrchu’r Galaxy Note 7 yn gyfangwbl.

Roedd cyfrannau’r cwmni technoleg o Korea wedi gostwng 7% yn Seoul ddydd Mawrth, wrth i ddyfodol y ffonau newydd fod yn y fantol.