Mae Shimon Peres, un o ffigyrau gwleidyddol fwyaf amlwg Israel oedd hefyd yn enillydd gwobr heddwch Nobel, wedi marw yn 93 oed.

Fe gafodd strôc bythefnos yn ôl, cyn i’w gyflwr ddirywio yn yr ysbyty yn Tel Aviv ddydd Mawrth.

Cafodd ei ethol yn brif weinidog ar Israel ddwywaith, ac ef hefyd oedd nawfed arlywydd y wlad. Roedd yn cael ei ystyried y cyswllt olaf rhwng heddiw â sylfaenwyr Israel fel gwlad annibynnol yn 1948.

Ei lwyddiant mwyaf nodedig oedd ennill gwobr heddwch Nobel am fod yn un o dri wnaeth lunio Cysyniad Heddwch Oslo ynghyd a’r prif weinidog Yitzhak Rabin a Yasser Arafat, cadeirydd Sefydliad Rhyddid Palestine.

Daeth cadarnhad o’i farwolaeth gan ei fab Chemi mewn cynhadledd i’r wasg fore Mercher.

Mae prif rabi gwledydd Prydain, Ephraim Mirvis, wedi ei ddisgrifio fel “cawr ymysg dynion”.