Roced Falcon 9 Llun: Spacex
Mae ffrwydrad wedi bod yng nghanolfan ofod Kennedy yn Florida fore Iau.

Dywedodd Nasa mai cwmni SpaceX oedd yn defnyddio’r ganolfan er mwyn profi ei roced di-griw
ar y pryd. Ni chafodd unrhyw un eu hanafu.

Cafodd y prawf ei gynnal cyn lansiad y roced Falcon 9 o Cape Canaveral ddydd Sadwrn.

Cafodd adeiladau sawl milltir i ffwrdd eu hysgwyd yn ystod y ffrwydrad nerthol cyntaf a gafodd ei ddilyn gan  ffrwydradau llai am rai munudau gyda chwmwl o fwg tywyll yn llenwi’r awyr.

Nid oes manylion ychwanegol ar gael ar hyn o bryd ond roedd disgwyl i’r roced lansio lloeren o Israel y penwythnos hwn.