(llun o wefan y Gwasanaeth Iechyd)
Mae diet gwledydd y Môr Canoldir yn well na chyffuriau lleihau cholestrol ar gyfer trin clefyd y galon, yn ôl arbenigwr byd-eang.

Mewn cynhadledd ar glefyd y galon yn Rhufain, dywedodd yr Athro Giovanni de Gaetano:

“Hyd yma mae’r ymchwil wedi canolbwyntio ar y boblogaeth gyffredinol, sef pobl iach yn bennaf, ond beth am y bobl sydd eisoes wedi dioddef salwch cardiofasgwlaidd?

“Ai’r diet Môr Canoldir yw’r ateb gorau iddyn nhw hefyd?”

Dywedodd fod y cleifion a oedd yn bwyta llawer o lysiau, cnau, pysgod ac olewau yn 37% llai tebygol o farw na phobl eraill yn ystod astudiaeth a wnaed.

Hyd yma, y gred oedd mai statins oedd y ffordd fwyaf effeithiol o frwydro yn erbyn clefyd y galon, a’u bod yn arwain at leihad o 24% mewn problemau difrifol y galon.