Llun: PA
Mae’n edrych yn debyg na fydd athletwyr Rwsia yn cael cystadlu yn y Gemau Paralympaidd yn Rio fis nesaf.

Daw hyn yn dilyn cyhoeddiad gan y Llys Cyflafareddiad Chwaraeon heddiw sy’n cadarnhau fod Rwsia wedi colli apêl yn erbyn eu gwaharddiad i gystadlu.

Ceisiodd Pwyllgor Paralympaidd Rwsia herio’r gwaharddiad heddiw a osodwyd arnynt ar Awst 7.

Roedd y gwaharddiad yn ganlyniad i adroddiad damniol a oedd yn awgrymu fod defnydd o gyffuriau i wella perfformiad yn rhywbeth cyffredin gan athletwyr y wlad.

Ond, yn achos yr athletwyr Olympaidd, penderfynodd y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol adael i gymdeithasau ar draws y byd benderfynu pa athletwyr o Rwsia fyddai’n cael cymryd rhan yn hytrach na chyflwyno gwaharddiad llwyr.

Fe fydd y gemau Paralympaidd yn dechrau yn Rio ar Fedi 7.