Tacsi sy'n gyrru ei hunan (Llun: Uber)
Mae’r cwmni tacsi rhyngwladol Uber wedi cyhoeddi y bydd yn dechrau cludo teithwyr gyda cheir sy’n gyrru eu hunain ar strydoedd Pittsburgh yn yr Unol Daleithiau yn yr wythnosau nesaf.
Bydd y ceir Ford Fusion yn cynnwys gyrwyr rhag ofn i bethau fynd o’i le ond bydd yn cludo teithwyr yn union fel cerbydau Uber arferol, dywedodd y cwmni.
Mae gan Uber labordy sy’n ymchwilio i geir sy’n gyrru eu hunain yn Pittsburgh ac yn gweithio ar dechnoleg newydd.
Hefyd, mae Uber a’r cwmni ceir Volvo wedi cyhoeddi cytundeb gwerth £228 miliwn fydd yn gweld Volvo yn darparu ceir i Uber gyfer eu hymchwil.