(Llun: PA)
Mae mwy na 500 o deithwyr a chriw wedi’u hachub oddi ar long ar dân oddi ar arfordir Puerto Rico.

Mae’r fflamau’n parhau i losgi ar fwrdd y Caribbean Fantasy, cyfuniad o long bleser a fferi.

Mae gwylwyr y glannau wedi cadarnhau fod pob teithiwr a phob aelod o griw’r bad wedi’i godi’n ddiogel i dir sych. Mae’r awdurdodau yn cyfweld â’r capten.

Ymhlith y teithwyr, roedd rhai dwsinau o bobol ifanc oedd ar eu  ffordd i bencampwriaethau athletau yn Puerto Rico, yn cynnwys tîm o 22 o feicwyr, tim pêl-foli merched, a thîm pêl-fâs. Mae’r cwch yn arfer croesi nifer o weithiau bob wythnos rhwng Puerto Rico a Gweriniaeth Dominica.

Y gred ydi fod y tân wedi hen gydio cyn i’r larwm seinio.