Mae dyn wedi ymosod ar deithwyr ar drêm yng ngorllewin Awstria, gan anafu dau o bobol yn ddifrifol.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn fuan fore Mawrth ger pentre’ Sulz yn nhalaith Vorarlberg.

Mae’r heddlu lleol yn dweud mai Almaenwr trigain oed, yn diodde’ o afiechyd meddwl, ydi’r ymosodwr.

Fe gafodd dyn 19 oed ei anafu yn ei stumog a’i gefn, tra bod teithiwr arall, 17 oed, wedi diodde’ anaf i’w wddw. Mae’r ddau wedi cael eu cludo i’r ysbyty.