Mae disgwyl i Donald Trump heddiw amlinellu ei bolisi tramor os caiff ei ethol yn Arlywydd yr Unol Daleithiau ym mis Tachwedd.

Mae disgwyl iddo ddweud y byddai’n gwyro oddi ar polisi presennol y wlad sy’n canolbwyntio ar adeiladu cenhedloedd a’i ddisodli gyda “polisi tramor real” sy’n canolbwyntio ar ddinistrio’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) a sefydliadau eithafol eraill.

Mewn araith yn Ohio, bydd Donald Trump yn dadlau bod angen i’r Unol Daleithiau weithio gydag unrhyw un sy’n rhannu eu gweledigaeth, waeth beth yw eu hanghytundebau ideolegol a strategol.

Bydd unrhyw wlad sydd am weithio gyda’r Unol Daleithiau i drechu “terfysgaeth Islamaidd radical” yn ffrind i’r Unol Daleithiau bydd yn dweud.

Bydd hefyd yn amlinellu cynnig polisi mewnfudo newydd a ddechreuodd gyda galwad ganddo i wahardd Mwslimiaid rhag dod i mewn i’r wlad. Mae’r fersiwn newydd yn llai dadleuol ac yn gorfodi pawb sydd eisiau cael eu derbyn i’r wlad i gymryd prawf ideolegol newydd a fyddai’n asesu safbwyntiau’r ymgeisydd ar faterion fel rhyddid crefyddol, cydraddoldeb rhywiol a hawliau hoyw.

Disgwylir hefyd i’r ymgeisydd ddweud bod y rhyfel yn erbyn IS yn un ideolegol fel yn ystod y Rhyfel Oer.

Er bod Donald Trump wedi cael ei feirniadu yn y gorffennol am fethu a chyflwyno manylion polisi penodol ochr yn ochr â’i rethreg, meddai rhai sy’n agos at ei ymgyrch y bydd yr araith heddiw’n canolbwyntio unwaith eto ar ei weledigaeth ehangach. Ond mae disgwyl areithiau ychwanegol gyda mwy o fanylion yn yr wythnosau i ddod.

Daw’r araith wedi i Donald Trump gael trafferth peidio gwyro o’i neges mewn areithiau. Yr wythnos diwethaf, cafodd ei araith polisi economaidd a oedd yn galw am dorri trethi corfforaethol is a thorri nôl ar reoliadau ffederal ei gysgodi gan gyfres o ddatganiadau pryfoclyd, gan gynnwys dweud mai Barak Obama oedd “sylfaenydd” IS.

Dywedodd llefarydd ar ran ymgyrch Donald Trump yn eu bod yn hyderus y bydd yn aros ar y trywydd iawn heddiw.