Mae brawd-yng-nghyfraith un o’r dynion ymosododd ar swyddfa cylchgrawn dychanol, Charlie Hebdo, yn Paris, wedi’i atal gan yr heddlu yn Bwlgaria. Mae’r awdurdodau’n dweud ei fod yn cael ei amau o geisio ymuno ag eithafwyr yn Syria.

Roedd Mourad Hamyd dan amheuaeth yn wreiddiol o fod â rhan yn yr ymosodiad ym Mharid ym mis Ionawr 2015, ond fe aeth ei gyfeillion ysgol ati i sefydlu ymgyrch ar-lein lwyddiannus i glirio’i enw.

“Rydw i’n fyfyriwr sy’n byw’n heddychlon gyda’i rieni,” meddai Mourad Hamyd bryd hynny.

Ond mae swyddfa’r erlynydd ym Mharis yn dweud fod rhywun “agos at Hamyd” wedi gadael iddyn nhw wybod am ei daith i Syria, a’i fod wedi’i atal ar y ffin ddiwedd Gorffennaf.

Roedd chwaer Mourad Hamyd yn briod â Cherif Kouachi, un o’r ddau frawd oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad angheuol ar swyddfa cylchgrawn Charlie Hebdo.