Heddiw, fe fydd y Pab Ffransis yn ymweld â chyn-wersyll rhyfel y Natsïaid yn Auschwitz-Birkenau, gan ddod y trydydd Pab i wneud y bererindod i’r fan lle’r aeth gweision cyflog Adolf Hitler ati i ladd mwy na miliwn o bobol – y rhan fwya’ ohonyn nhw’n Iddewon.

Yn ôl swyddogion y Fatican, bwriad Ffransis ydi mynegi ei dristwch mewn tawelwch llwyr, gan alaru’r dioddefwyr mewn gweddi a myfyrdod hollol bersonol.

Roedd disgwyl i’r Pab hedfan o Krakow i Oswiecim, y dre’ fechan lle cafodd y gwersyll ei godi, ond oherwydd tywydd gwael, fe fydd bellach yn gwneud y daith 40 milltir mewn car.