(llun: Wikipedia)
Mae matador wedi cael ei ladd gan darw yn Sbaen – y tro cyntaf i hyn ddigwydd i ymladdwr proffesiynol ers 1985.

Cadarnhawyd bod Victor Barrio, 29 oed, wedi marw yn hwyr neithiwr gan lawfeddyg yn statdiwm ymladd teirw Teruel yn nwyrain y wlad.

Roedd wedi cael ei dwlcio yn ei glun i ddechrau, ac wedi iddo gael ei syrthio cafodd ei drywanu yn ei ysgyfaint a’i aorta gan un o gyrn y tarw 1,166 pwys. Er iddo cael cymorth meddygol ar unwaith methiant oedd pob ymgais i’w achub.

Roedd y cyfan yn cael ei ddarlledu ar deledu byw ar y pryd.