Mae meddyg wedi’i golbio i farwolaeth, a’i ffrind wedi’i anafu’n ddifrifol yn yr ymosodiad diweddara’ yn Bangladesh yn erbyn blogwyr digrefydd, lleiafrifoedd ac eraill sy’n hybu bydolwg rhyddfrydol.

Mae heddlu lleol yn dweud i’r ddau ddyn gael eu targedu ddydd Gwener gan ymosodwyr yn cario cyllyll mawr machete a ddiflannodd wedyn ar gefn beic modur yn ardal orllewinol Kushtia.

Mae’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad, gyda’i asiantaeth newydd, Amaq, yn honni fod y meddyg homeopathig, Sanaur Rahman, wedi’i dargedu oherwydd ei fod yn hyrwyddo Cristnogaeth.