Donald Trump
Roedd buddugoliaeth i Donald Trump ym Mississippi, Michigan a Hawaii wrth iddo geisio ennill y ras i fod yn ymgeisydd arlywyddol y Gweriniaethwyr.

Cipiodd Bernie Sanders dalaith Michigan yn ras y Democratiaid, wrth iddo geisio lleihau blaenoriaeth Hillary Clinton.

Ond roedd Clinton hithau’n fuddugol ym Mississippi, gan olygu bod ganddi fwy na hanner y pleidleisiau sydd eu hangen er mwyn cael ei henwi’n ymgeisydd swyddogol y blaid.

Mae’r canlyniadau diweddaraf wedi cryfhau’r tebygolrwydd mai Clinton a Trump fydd yn wynebu’i gilydd ar ddiwedd y ras.

Roedd gwrthwynebydd Trump, Ted Cruz yn fuddugol yn Idaho, sy’n golygu ei fod yntau bellach wedi ennill mewn saith talaith.

Fe allai’r etholiadau yn Ohio a Florida yr wythnos nesaf fod yn dyngedfennol i Trump.