Mae dyn arfog a ddechreuodd saethu bwledi mewn bar cyhoeddus yn Tel Aviv, wedi lladd beth bynnag ddau o bobol ac anafu beth bynnag dri arall cyn dianc o’r fan.

Dyw hi ddim eto’n glir i’r heddlu beth oedd cymhelliad y dyn tros ymosod ar y bar yng nghanol stryd brysur. Dyw hi ddim yn glir chwaith p’un ai Iddew ynteu Balesteiniad ydi’r dyn.

Fe gafodd pump o bobol eu saethu, ac mae dau o’r rheiny wedi marw yn ysbyty.

Mae mae Tel Aviv, Ron Huldai, wedi bod i’r ysbyty i weld y rhai a gafodd eu hanafu, ac mae wedi mynegi ei anghredinedd gan mai “grwp o ffrindiau’n dathlu pen-blwydd” oedd yn y bar ar y pryd, pan ddaeth y dyn arfog a saethu atyn nhw o’r tu allan.

“Fe fydd gwersi’n cael eu dysgu o’r digwyddiad hwn,” meddai’r Maer.