Y gwasanaethau brys ger safle'r ymosodiad ym Mharis ym mis Ionawr
Mae dau berson wedi cael eu harestio ar amheuaeth o ddarparu gynnau i’r dyn a oedd wedi ymosod ar archfarchnad ym Mharis ym mis Ionawr.

Cafodd y dyn a’r ddynes eu harestio yng ngogledd Ffrainc ddydd Mawrth, bron i flwyddyn ers yr ymosodiadau ar bapur newydd Charlie Hebdo a’r archfarchnad pan gafodd 17 o bobl eu lladd.

Roedd Amedy Coulibaly wedi lladd pedwar o bobl yn yr archfarchnad cosher a phlismones cyn cael ei saethu’n farw gan yr heddlu.

Mae swyddfa’r erlynydd ym Mharis wedi cadarnhau mai un o’r rhai sydd wedi’u harestio yw Claude Hermant a’i bartner.