Sebastian Coe, llywydd IAAF
Mae’r pwysau ar yr awdurdodau athletau i wahardd athletwyr Rwsia rhag cystadlu ar y llwyfan rhyngwladol yn cynyddu.

Wrth ymateb i’r helynt cyffuriau sy’n bygwth dyfodol y gamp, mae llywydd ffederasiwn athletau’r IAAF, yr Arglwydd Sebastian Coe wedi addo gweithredu er mwyn gwella delwedd y byd athletau’n dilyn y sgandal cyffuriau diweddaraf.

Bydd cyngor yr IAAF yn cyfarfod ddydd Gwener i drafod dyfodol athletwyr Rwsia.

Mae cadeirydd corff athletau’r DU, Ed Warner wedi galw am wahardd Rwsia a’u hatal rhag cynnal pencampwriaethau ieuenctid y byd ym mis Gorffennaf.

‘Taith enfawr’ 

Mae’r Arglwydd Coe wedi cyfaddef fod y broses o fynd i’r afael a’r broblem yn y byd athletau’n “daith enfawr”, ond fe ddywedodd na fyddai’n methu yn ei dasg.

Dywedodd ei fod wedi lansio ymchwiliad i’r helynt cyffuriau ddiwrnod yn unig ar ôl cael ei benodi’n gadeirydd, a’i fod wedi dirwyn yr ymchwiliad i ben yn gynt na’r disgwyl er mwyn ymateb i’r helynt ar frys.

Cysylltiadau â Nike

Mae disgwyl iddo fynd gerbron pwyllgor diwylliant, cyfryngau a chwaraeon San Steffan fis nesaf i drafod y ffordd yr aeth yr IAAF ati i ymchwilio i honiadau o dwyllo cyffuriau, yn ogystal â’i gysylltiadau â chwmni Nike.

Mae’r Arglwydd Coe wedi’i noddi gan y cwmni byd-eang, ac mae’r aelod seneddol Damian Collins wedi mynegi pryder y gallai’r nawdd greu gwrthdaro buddiannau.

Ddydd Llun, galwodd cyn-athletwraig y naid hir, Jade Johnson ar i’r Arglwydd Coe roi’r gorau i’w gysylltiadau â Nike.

Diack wedi ymddiswyddo 

Yn y cyfamser, mae cyn-lywydd yr IAAF, Lamine Diack wedi ymddiswyddo o’i rôl fel aelod o’r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol.

Mae ymchwiliad ar y gweill yn dilyn honiadau bod y gŵr 82 oed wedi celu canlyniadau profion cyffuriau yn gyfnewid am arian.