Canolfan feddygol a gafodd ei sefydlu i drin cleifion Ebola yn Sierra Leone y llynedd (llun: PA)
Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) wedi datgan fod Sierra Leone bellach yn rhydd o’r haint marwol Ebola.

Nid yw’r wlad wedi cael achos newydd o’r firws ers 42 diwrnod, sy’n golygu nad oes mwy o heintio yn digwydd ar hyn o bryd.

Meddai’r Dr Anders Nordstrom, cynrychiolydd Sefydliad Iechyd y Byd yn Sierra Leone:

“Ers i Sierra Leone gofnodi’r achos cyntaf o Ebola ym mis Mai 2014, cafodd cyfanswm o 8,704 o bobl eu heintio a bu farw 3,589, gan gynnwys 221 o weithwyr iechyd, ac rydym yn cofio amdanyn nhw i gyd heddiw.”

Roedd cannoedd o bobl wedi ymgynnull yn y strydoedd ar gyfer dathlu wrth ddisgwyl am y cyhoeddiad.

Fe fydd Sierra Leone yn awr yn cychwyn cyfnod 90 diwrnod o gadw gwyliadwriaeth fanwl, a fydd, yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, yn allweddol er mwyn sicrhau y bydd unrhyw achosion newydd posibl yn cael eu darganfod yn fuan.

“Mae gennym bellach gyfle unigryw i helpu Sierra Leone i adeiladu system iechyd cyhoeddus gref a fydd yn barod ar gyfer darganfod afiechyd neu unrhyw fygythiad arall i iechyd cyhoeddus ac ymateb iddynt,” meddai Dr Nordstrom.