Dug Caeredin
Dug Caeredin yw un o’r bobl olaf i gael ei urddo’n farchog gan Awstralia ar ôl i’r wlad sgrapio’r teitl, gan ddweud ei fod yn amhriodol yn y system anrhydeddu fodern.

Cafodd Philip ei urddo’n farchog gan y Frenhines yng Nghastell Windsor yn gynharach eleni ar ôl cael ei anrhydeddu gan gyn-brif weinidog Awstralia, Tony Abbott.

Mae’r Frenhines wedi cytuno i argymhelliad i beidio ag urddo pobl yn farchog neu fonesig yn Awstralia bellach, meddai’r Prif Weinidog Malcolm Turnbull.