Mae dyn 44 oed wedi cael ei anafu mewn ymosodiad gan siarc ger Oahu, Hawaii.

Roedd y dyn, ynghyd â dyn arall, yn nofio i’r lan ar draeth Lanikai pan ddaeth y siarc amdanyn nhw.

Mae un dyn wedi diodde’ anafiadau i waelod ei goesau, ond fe ddihangodd y llall yn ddianaf. Fe ddaeth dau gaiaciwr â’r ddau ddyn i’r lan, ller oedd staff y Gwasanaeth Tân a pharafeddygon ar gael i roi triniaeth iddyn nhw.

Mae un o’r dynion wedi’i gludo i’r ysbyty mewn cyflwr difrifol.

Fe gafodd traethau Kailua, Lanikai a Mokulua eu clirio o’r ardal lle y collodd un nofiwr ei goes chwith mewn ymosodiad tebyg gan siarc.