Mae prif weinidog Sri Lanka wedi trechu cyn-arlywydd y wlad mewn etholiad seneddol, gan rwystro dyn ddoe rhag dychwelyd i’r llwyfan gwleidyddol.
Mae canlyniadau swyddogol yn dangos fod plaid y prif weinidog Ranil Wickremesinghe wedi cipio 93 sedd allan o gyfanswm o 196, tra bod plaid y cyn-arlywydd Mahinda Rajapaksa wedi ennill 83.
Pleidiau llai enillodd y seddi eraill yn etholiadau ddoe (dydd Llun). Fe fydd comisiynydd etholiado y wlad yn dosrannu’r 29 o seddi sy’n weddill yn ôl canran y bleidlais yn genedlaethol, a hynny er mwyn llenwi’r senedd o 225 o seddi.
Fe gafodd Mr Rajapaksa ei drechu yn gynharach eleni – yn etholiad Ionawr 8 – gan gyn-gydweithiwr, Maithripala Sirisena.