Barack Obama
Mae Barack Obama yn bwriadu cyflwyno rhagor o reoliadau i ostwng nwyon tŷ gwydr gan obeithio y bydd gwledydd eraill hefyd yn gweithredu.

Dywed Arlywydd yr Unol Daleithiau mai dyma fydd y cynllun pwysicaf erioed i geisio lleihau allyriadau.

Ond ei olynydd fydd a’r dasg o gyflwyno’r cynllun sydd wedi wynebu beirniadaeth chwyrn gan Weriniaethwyr ac mae nifer o daleithiau wedi bygwth peidio cydymffurfio.

Y llynedd, roedd llywodraeth Obama wedi cynnig cyflwyno’r cyfyngiadau cyntaf ar nwyon tŷ gwydr o orsafoedd cynhyrchu ynni, gan arwain at adolygiad blwyddyn o hyd a mwy na phedwar miliwn o sylwadau gan y cyhoedd.

Fe fydd yr Arlywydd yn cyhoeddi’r cynllun terfynol mewn digwyddiad yn y Tŷ Gwyn.

Mae’n galw ar daleithiau i ostwng allyriadau carbon deuocsid o 32% erbyn 2030, o’i gymharu â lefelau 2005. Fe fydd targedau penodol ar gyfer pob talaith, ond y taleithiau fydd yn gorfod penderfynu sut i gwrdd â’r targedau hynny.

Mae’r cynllun wedi ennyn ymateb gan yr ymgeiswyr yn y ras am yr Arlywyddiaeth yn 2016 gyda Hillary Clinton yn datgan ei chefnogaeth i gynllun Obama. Ond mae Marco Rubio, un o ymgeiswyr y Gweriniaethwyr, yn dadlau y bydd biliau trydan yn cynyddu a bod polisïau Obama o ran gorsafoedd ynni yn “drychinebus.”