Mae ymosodiad gan y grwp terfysgol, IS, mewn marchnad brysur yn nwyrain Irac, wedi lladd 115 o bobol, yn cynnwys merched a phlant.

Roedd y mwyafrif o’r rheiny gafodd eu lladd yn Fwslimiaid Shi-aidd wedi ymgynnull i nodi diwedd mis cysegredig Ramadan, a ddaeth i ben ddoe.

Mae heddlu lleol yn dweud fod bom wedi ffrwydro mewn fan fechan a oedd wedi’i gyrru i ganol y farchnad yn nhre’ Khan Beni Saad neithiwr. Fe drodd yr ymdeimlad o ddathlu yno yn fraw, gyda darnau o gyrff dynol wedi’u chwythu i bob cwr o’r farchnad.

Fe gafodd beth bynnag 170 o bobol eu hanafu yn y digwyddiad.