Mae miliynau o bobol ar draws y byd wedi bod yn dathlu Diwrnod Ioga’r Byd.

Ymhlith y rhai sydd wedi bod yn dathlu mae prif weinidog India, Narendra Modi, sydd wedi bod yn cymryd rhan mewn digwyddiad yn New Delhi, ac roedd yn allweddol yn y broses o sefydlu’r diwrnod byd eang.

Ymgasglodd miloedd o bobol i eistedd ar fatiau ger Tŵr Eiffel ym Mharis – ac mae digwyddiadau tebyg wedi cael eu cynnal yn Bangkok, Kuala Lumpur, Seoul, Beijing a Manila.

Mae dyn 41 oed o Dubai, Ivan Stanley wedi bod yn anelu record byd am sefyll ar ei ddwylo am 61 munud – dydy’r record ddim wedi cael ei chadarnhau hyd yma.

Mae Moslemiaid yn India’n gwrthwynebu’r diwrnod byd-eang gan ei fod yn hyrwyddo defod Hindwaidd.