Mae pump o fyfyrwyr o Iwerddon wedi marw yn yr Unol Daleithiau ar ôl i falconi gwympo yn ystod parti pen blwydd.
Mae o leiaf wyth o bobl eraill wedi’u hanafu, rhai yn ddifrifol, yn y digwyddiad ar bedwerydd llawr bloc o fflatiau yn Berkeley, California, yn oriau mân y bore.
Cwympodd y balconi tua 40 troedfedd i’r llawr. Roedd y myfyrwyr yn yr Unol Daleithiau i weithio dros yr haf.
Credir bod pob un sydd wedi eu lladd neu eu hanafu rhwng 20 a 22 oed.
Mae ymchwiliad yr heddlu lleol yn canolbwyntio ar faint o bobl oedd ar y balconi pan wnaeth o gwympo.
Mae Arlywydd Iwerddon Michael D Higgins wedi anfon neges o gydymdeimlad tra ar ymweliad a’r Eidal gan ddweud ei fod yn cydymdeimlo gyda theuluoedd ac anwyliaid pawb sy’n gysylltiedig â’r ddamwain.